Malcolm Nash
Cyn-gricedwr, ac yn ddiweddarach hyfforddwr, a fu'n chwarae i Forgannwg oedd Malcolm Andrew Nash (9 Mai 1945 – 30 Gorffennaf 2019).[1][2]
Malcolm Nash | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mai 1945 Y Fenni |
Bu farw | 30 Gorffennaf 2019 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cricedwr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Shropshire County Cricket Club, Clwb Criced Morgannwg |
Ganed ef yn y Fenni. Roedd yn fowliwr llaw chwith, a gymerodd bron fil o wicedi i Forgannwg, a sgoriodd gant gyda'r bat ddwywaith. Cofir ef yn fwy na dim fel y bowliwr pan darawodd Gary Sobers ef am chwech chwech yn yr un belawd ar 31 Awst 1968.[3][4]
Ers ymddeol, treuliodd gyfnodau yn byw a hyfforddi dramor, cyn dychwelyd i Gymru.
Marwolaeth
golyguRoedd mewn cinio chwaraeon yn Llundain ar 30 Gorffennaf 2019 pan gafodd ei daro'n wael. Fe'i gludwyd i'r ysbyty ond bu farw .[5] Dwedodd ei ffrind, Syr Gary Sobers: "He was a good friend of mine and we always kept that friendship, he was a nice man."
Hunangofiant
golygu- Not Only, But Also: My Life in Cricket (2018)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Malcolm Nash. ESPNcricinfo. Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
- ↑ Malcolm Nash, bowliwr y ‘chwech chwech’, wedi marw , Golwg360, 31 Gorffennaf 2019.
- ↑ (Saesneg) Whatever happened to Malcolm Nash?. The Observer (3 Chwefror 2002). Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Sobers' six ball fetches £26,400. BBC (15 Tachwedd 2006). Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
- ↑ Andy Howell. Malcolm Nash, Glamorgan star hit for a record six sixes in one over by Garry Sobers, has passed away (en) , WalesOnline, 31 Gorffennaf 2019.