Malibu, Califfornia
Dinas yn Los Angeles County, Califfornia, Unol Daleithiau America, yw Malibu. Fe'i lleolir ar yr arfordir, tua 30 milltir (48 km) i'r gorllewin o ganol dinas Los Angeles, ac mae'n ymestyn am tua 21 milltir (34 km) ar hyd arfordir y Môr Tawel. Mae'n enwog am ei draethau tywodlyd ac am fod yn gartref i lawer o sêr ffilmiau Hollywood a phobl o'r byd adloniant. Mae'r rhan fwyaf o drigolion yn byw o fewn ychydig gannoedd o lannau o'r Pacific Coast Highway, sy'n croesi'r ddinas.
Math | dinas yn yr Unol Daleithiau |
---|---|
Poblogaeth | 10,654 |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Cefnfor Tawel |
Daearyddiaeth | |
Sir | Los Angeles County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 51.354428 km², 51.354425 km² |
Uwch y môr | 32 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Topanga |
Cyfesurynnau | 34.035°N 118.695°W |
Cod post | 90263–90265, 90263, 90265 |