Malleus Maleficarum
Traethawd Lladin ar ddewiniaeth yw Malleus Maleficarum ("Morthwyl Dewiniaid"). Fe'i hysgrifennwyd gan Heinrich Kramer, mynach Dominicaidd a oedd yn aelod o'r Chwilys, ac a gyhoeddwyd gyntaf yn Speyer, yr Almaen, ym 1487. Mae'n casglu ynghyd lawer iawn o wybodaeth am ddewiniaeth yn ystod y 15g, ac felly mae'n ffynhonnell hanesyddol werthfawr. Fodd bynnag, hyd yn oed yn ei gyfnod ei hun roedd y llyfr yn ddadleuol. Fe'i condemniwyd gan ddiwinyddion yr Chwilys yng Nghwlen am fod yn argymell gweithdrefnau anfoesegol ac anghyfreithlon, ac nad oedd yn cydymffurfio ag athrawiaeth Gatholig.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Henri Institoris, Jacob Sprenger |
Iaith | Lladin |
Dyddiad cyhoeddi | 1487 |
Lleoliad cyhoeddi | Strasbwrg |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n datgan y dylid difodi dewiniaid a dewinesau a gyda bwriad hwn mae'n datblygu theori gyfreithiol a diwinyddol fanwl o'r pwnc. Mae'n ymdrin â dewiniaeth fel heresi, a oedd yn drosedd, y gellid ei herlyn mewn llysoedd seciwlar. Mae'n argymell y dylid defnyddio artaith i gael cyfaddefiadau, a'r gosb eithaf fel yr unig rwymedi penodol yn erbyn drygioni dewiniaeth. Ar adeg ei gyhoeddi, roedd hereticiaid yn aml yn cael eu llosgi wrth y stanc, ac roedd y llyfr yn annog yr un driniaeth â dewiniaid a gwrachod.
Cyfrannodd y llyfr at yr erlyniad cynyddol greulon o ddewiniaeth yn ystod y 16g a'r 17g.
Dolen allanol
golygu- Malleus Maleficarum, argraffiad cyntaf (1487) yn Bayerische Staatsbibliothek, München