Mandala
Symbol crefyddol yw mandala (Sansgrit: मण्डल, cylch), sydd i'w gael yn amrywiol draddodiadau ysbrydol Asia, megis Hindŵaeth, Bwdhaeth (yn enwedig ym Mwdhaeth Tibet), Jainiaeth a Shintō. Defnyddir mandalâu i ganolbwyntio sylw ymarferwyr, fel cymorth i fyfyrdod neu fel map sy'n cynrychioli duwiau neu baradwys. Yn gyffredinol, mae mandala yn cynrychioli taith ysbrydol, gan ddechrau o'r tu allan, trwy haenau, i'r craidd mewnol.
Enghraifft o'r canlynol | symbol, cysyniad crefyddol |
---|---|
Math | thema mewn celf, religious work of art |
Enw brodorol | मण्डल |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |