Marathon, Groeg
Mae Marathon (Groeg Demotig: Μαραθώνας, Marathónas; Groeg Katharevousa: Μαραθών, Marathón) yn dref yn Attica, Gwlad Groeg, sy'n fwyaf enwog fel safle Brwydr Marathon yn 490 CC, pan orchfygwyd y Persiaid gan yr Atheniaid.
![]() | |
Math | tref ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Marathon ![]() |
Poblogaeth | 7,170 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Santa Maria Capua Vetere, Xiamen ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Marathonas ![]() |
Gwlad | Gwlad Groeg ![]() |
Arwynebedd | 226.6 km² ![]() |
Uwch y môr | 28 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Varnavas ![]() |
Cyfesurynnau | 38.155°N 23.9636°E ![]() |
Cod post | 190 07 ![]() |
![]() | |
Saif Marathon tua 26.2 milltir (42 km) i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Athen. Yn ôl y traddodiad, rhedodd yr Atheniad Phidippides o faes y frwydr i Athen gyda'r newyddion am y fuddugoliaeth, a syrthiodd yn farw ar ôl trosglwyddo'r newydd. Y pellter yma a ddefnyddiwyd ar gyfer y ras fodern, y Marathon.
Claddwyd yr Atheniaid a laddwyd yn y frwydr, 192 ohonynt, dan domen gladdu gerllaw. Mae colofn farmor ar y domen yn awr, a pharc bychan o'i hamgylch.
Roedd poblogaeth cymuned Marathon yn 5,453 yn 1991.