Rhanbarth hanesyddol yng Ngwlad Groeg yw Attica (Groeg: Αττική, Attiki, efallai o'r gair akte "gorynys"). Mae'n gorwedd yn ne-ddwyrain canolbarth y wlad, ar y tir mawr. Mae ar ffurf triongl. I'r de-orllewin ceir Gwlff Saronica. Mae braich arall o'r Môr Aegeaidd yn gwahanu Attica ac ynys Euboea. Gelwir Attica a'r ynysoedd cyfagos i'r de-ddwyrain yn y Môr Aegeaidd yn Ynysfor Attica, sy'n ffurfio rhan ogleddol yr Ynysoedd Cyclades. Mae Isthmws Corinth yn cysylltu Attica â'r Peloponesse. I'r gogledd ceir Boeotia. Mae mynyddoedd geirwon Pateras, Kithairon a Parnes yn ei diffinio yn y gogledd, gan redeg o fae Aigosthena yn y gorllewin i Sianel Euboea yn y dwyrain. Trwy'r bylchoedd rhwng y mynyddoedd hyn ceir y tair ffordd hynafol i mewn ac allan o Attica. Yn amddiffyn dinas Athen ceir mynyddoedd Aigaleos, Pentelikon a Hymettos.

Attica
Mathardal hanesyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadGwlad Groeg Edit this on Wikidata
GwladGwlad Groeg Edit this on Wikidata
Arwynebedd3,808.1 km² Edit this on Wikidata
GerllawPetalioi Gulf Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.0027°N 23.81°E Edit this on Wikidata
Map

Yn ôl traddodiad unwyd deuddeg dinas yr Attica hynafol yn un wladwriaeth gan yr arwr Theseus. O'r 6g CC ymlaen dominyddid Attica gan Athen.

Yn ogystal ag Athen a Piraeus lleolir dinasoedd a threfi eraill fel Megara, Eleusis, Kifissia a Markopoulon ar yr orynys. O ddidordeb arbennig i haneswyr y mae gwastadedd Marathon. Mae teml Poseidon ar Benrhyn Sounion, pwynt mwyaf deheuol Attica, yn enwog.

Yn yr Henfyd roedd Attica yn enwog ymhlith pethau eraill am ei llestri cain a elwir heddiw'n llestri Atticaidd.