Digwyddiad cerddorol, blynyddol yw Marathon Roc sydd yn cael ei gynnal bob mis Awst er mwyn llunio a chreu bandiau newydd ar gyfer pobl ifanc rhwng 13-18 mlwydd oed.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Y Galeri, yng Nghaernarfon. Tri cyfansoddwr enwog o Gymru sydd yn hybu’r digwyddiad yw Osian Huw Williams, Branwen Williams a Gareth Thomas. Mae'r cyfansoddwyr yma yn dod at ei gilydd i greu gweithgareddau llais ac offerynnol mewn band e.e. gitâr, piano, allweddellau a’r drymiau. Mae Marathon Roc yn helpu pobl ifanc i ddatblygu gwahanol sgiliau a rhannu syniadau i ddadansoddi caneuon eu hunain er mwyn cael hyder i berfformio o flaen gynulleidfa hwyliog.

Mae plant o gwmpas ardal Caernarfon yn dod at ei gilydd i'r Galeri, i dod i ‘nabod ei gilydd fel unigolion ac yn datblygu fel grŵp.Yn ystod y sesiwn cyntaf mae’r trefnwyr yn rhannu’r holl gystadleuwyr i grwpiau bychain ac maent yn mynd ati i ysgrifennu caneuon wreiddiol. Mae pwyslais mawr yn cael ei roi ar yr iaith Gymraeg, ac mae’n rhaid i'r holl ganeuon fod yn y Gymraeg. Yna, mae’r holl grwpiau yn cael cyfle i ymarfer perfformio’r caneuon ar gyfer y perfformiad mawreddog ar ddiwedd y trydydd dydd. Rhoddir y cyfle ar ddiwedd y trydydd dydd i'r holl griw ddangos eu perfformiad i griw o deulu a ffrinidau. Mae’r digwyddiad yma yn allweddol bwysig ar gyfer creu bandiau newydd yn y Gymraeg. Mae grwpiau enwog fel y Candelas, Di-enw a Gwilym wedi cychwyn wrth fynychu ‘Marathon Roc’. Yn 2018, cafodd nifer o fandiau newydd eu ffurfio yn 2018 sef Aerobic, Paracetamol a Maes Parcio.