Marchnad St George, Belffast
Adeiladwyd Marchnad St George ym Melffast, Gogledd Iwerddon, rhwng 1890 a 1896. Mae'r farchnad ar agor pob dydd Gwener rhwng 6yb a 2yp i werthu ffrwythau, llysiau, cig, pysgod, hen gelfi, llyfrau a dillad. Pob dydd Sadwrn rhwng 9yb a 3yp, mae'n agored i werthu bwyd lleol ac o'r canoldir: bwydydd arbennig, megis cig, pysgod, caws, ffa coffi, tapas a chynnyrch organic. Ar y Sul rhwng 10yb a 4yp, ceir stondinau gyda chymysgedd o'r nwydaud uchod, ac hefyd celf a chrefftau lleol. Mae cantorion a bandiau lleol yn perfformio yno a chynhelir cyngherddau yn yr adeilad hefyd.[1]
Math | neuadd marchnad |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Belffast |
Sir | Belffast, Town Parks |
Gwlad | Gogledd Iwerddon |
Cyfesurynnau | 54.5958°N 5.922°W |
Cod post | BT1 3NQ |
Statws treftadaeth | Grade B+ listed building |
Manylion | |
Mae marchnad ddydd Gwener wedi cael ei chynnal ar y safle ers 1604.[2]
-
Marchnad St George
-
Band yn chwarae
-
Caffi
-
Stondinau
-
Llysiau