Margaret Mitchell
Roedd Margaret Munnerlyn Mitchell (8 Tachwedd 1900 – 16 Awst 1949) yn awdures o'r Unol Daleithiau, a enillodd y Wobr Pulitzer ym 1937 am ei nofel Gone with the Wind. Y nofel hon yw un o'r nofelau mwyaf poblogaidd erioed, gan werthu dros 30 miliwn o gopïau. Rhyddhawyd addasiad ffilm Americanaidd o'r nofel ym 1939, a dyma oedd y ffilm a wnaeth fwyaf o arian erioed yn hanes Hollywood a thorrodd pob record gyda deg o Wobrau'r Academi.
Margaret Mitchell | |
---|---|
Ffugenw | Margaret Mitchell |
Ganwyd | 8 Tachwedd 1900 Atlanta |
Bu farw | 16 Awst 1949 o struck by vehicle Atlanta |
Man preswyl | Margaret Mitchell House & Museum |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, sgriptiwr, newyddiadurwr, rhyddieithwr |
Adnabyddus am | Gone with the Wind, Lost Laysen |
Arddull | nofel ramant |
Tad | Eugene Mitchell |
Mam | Maybelle Stephens Mitchell |
Priod | Berrien Kinnard Upshaw, John Robert Marsh |
Perthnasau | Joseph Mitchell, Mary Melanie Holliday |
Gwobr/au | Gwobr Cenedlaethol y Llyfr, Gorchest Merched Georgia, Gwobr Pulitzer i Nofelwyr |
llofnod | |
Bu farw o anafiadau a gafwyd wedi iddi gael ei tharo gan gar.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Miss Mitchell, 49, Dead of Injuries. The New York Times (17 Awst 1949). Adalwyd ar 16 Awst 2014.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.