Margaret More

cyfansoddwr a aned yn 1903

Cyfansoddwraig Prydeinig oedd Margaret More (26 Mehefin 19031966). [1][2]

Margaret More
Ganwyd26 Mehefin 1903 Edit this on Wikidata
Bu farw1966 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata

Blynyddoedd cynnar golygu

Cafidd Margaret "Peggy" More, a elwir yn aml yn, [3] yn Crown Lodge, Harlech, yn ferch i'r Sais William More a'i wraig Alice [4]. Addysgwyd hi gartref. Roedd hi'n ffrind y cyfansoddwr Josef Holbrooke. Cyflwynodd Holbrooke hi i Raymond Bantock, a fyddai'n dod yn ŵr iddi. Mab i'r cyfansoddwr Granville Bantock oedd ef.

Gyrfa golygu

Gadawodd Harlech i astudio cerddoriaeth yn Llundain, lle cyfarfu â'r bardd Claudine Currey. Buont yn cydweithio ar opera, The Mermaid (1929; perfformio gyntaf 1951). Sefydlodd hi'r Hans Andersen Players, gyda'r awdur, Michael Martin-Harvey.

Roedd ei gwaith olaf, The Mouse (1958), yn osodiad o un o straeon y Mabinogion. Roedd y libreto gan Amabel Williams-Ellis.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Margaret More 1903-1966". Unsung Composers (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Awst 2017.
  2. Grove’s Dictionary of Music and Musicians, 5th Edition, E.B., 1954, page 887.
  3. "Raymond Bantock Collection". Archives Hub. Cyrchwyd 21 August 2017.
  4. "GB's Grandparents". Gavin Bantock official website (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Awst 2017.