Ffeminist a swffragét o'r Almaen ac yna o'r Deyrnas Unedig oedd Margaret Schenke (1888 – 1973). Fe'i harestiwyd wedi i ddau agent provocateur ei hannog i dorri ffenest. Cadwodd yr heddlu eu llygad arni am rai blynyddoedd. Ei henw bedydd oedd Gretel Schenke a defnyddiai sawl enw arall gan gynnwys Margaret Schenke a Margaret Scott.

Margaret Scott
Ganwyd1888 Edit this on Wikidata
Zwickau Edit this on Wikidata
Bu farw1973 Edit this on Wikidata
Ealing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethswffragét Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Zwickau, Sacsoni, yn 1888 a bu farw yn Ealing (Bwrdeistref Llundain).

Ganwyd Gretel Schenke yn ganlyniad i ail briodas ei thad. Credir i ffrae deuluol fod wrth wraidd iddi ymfudo i wledydd Prydain, ac iddi ddefnyddio'r enw "Margot Schenke" tua 1908. Bu'n lletua yn Chelsea cyn iddi gyfarfod rhai o'r swffragetiaid lleol, a threulio'i hamser yn gwerthu papurau newydd y mudiad hawliau merched.

Ceir un cofnod ohoni yn Hyde Park Corner, pan ddaeth pobl ifanc i'w phryfocio, gan wneud sylwadau rhywiol a cheisio ei hatafaelu. Roedd yn ddiolchgar pan ddaeth dau blismyn i wasgaru'r bobl ifanc a'i rhoi ar fws i fynd adref yn ddiogel.[1]

Gwrthdystiad a charchar golygu

Nid oedd yr awdurdodau mor gefnogol pan gwrthdystiodd Schenke yn erbyn arestio Emmeline Pankhurst ym 1913. Siaradodd â dau brotestiwr arall ac awgrymodd y dylid taflu carreg at ffenestr y Swyddfa Gartref. Trefnodd y ddau ddieithryn iddi wneud galwad ffôn i esbonio na fyddai hi gartref o bosibl. Daeth i'r amlwg bod y ddau ddieithr yn ddau heddwas yn eu dillad eu hunain, a oedd yn procio drwg er mwyn ei harestio. Roedd ditectif gerllaw, a oedd yn barod i'w harestio.

Roedd Schenke yn ofni y gallai gael ei halltudio felly rhoddodd enw ffug, sef Margaret Scott ac o dan yr enw hwn cafodd ei dedfrydu i fis o garchar yng Ngharchar Holloway. Mewn tro anarferol cafodd dynnu ei llun, yn gyfrinachol, a dosbarthwyd y llun hwnnw, a lluniau o ferched eraill, i'r heddlu ac orielau celf i'w rhybuddio o swffragetiaid milwriaethus. Tynnwyd y lluniau o gar cuddiedig yn ystod ymarfer carcharorion gan ddefnyddio lens bwerus 11 modfedd, dyfais newydd sbon.

Priodi golygu

Priododd Richard Dixon yng Ngorffennaf 1914 a pharhaodd i gefnodi'r swfragetiaid hyd at ddechrau'r Rhyfel, pan gafwyd cadoediad rhwng y Swffragetiaid a'r awdurdodau.

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. "Strong Willed & Courageous … Margaret Schencke – A Woman of Fortitude". Women's History Network (yn Saesneg). 2015-02-08. Cyrchwyd 2018-05-05.