Ffeminist a swffragét o Ffrainc oedd Maria Deraismes (17 Awst 1828 - 6 Chwefror 1894) a oedd hefyd yn newyddiadurwraig ac yn awdur.

Maria Deraismes
Ganwyd17 Awst 1828 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw6 Chwefror 1894 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr, swffragét, darlithydd Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd Maria Deraismes, a aned ym Mharis, ei magu yn Pontoise yng ngogledd-orllewin y ddinas. Roedd ei theulu'n gymharol gyfoethog, ac fe'i haddysgwyd a'i magu'n mewn cartref llenyddol. Ysgrifennodd nifer o weithiau llenyddol ac yn fuan datblygodd enw da fel cyfathrebwr rhugl a galluog iawn. Daeth yn weithgar yn hyrwyddo hawliau cyfartal i fenywod.[1]

Bu farw yn Mharis a'i chladdu ym Mynwent Montmartre. [2][3][4][5]

Addysg a sgwennu golygu

Yn 1866 dechreuodd grŵp ffeministaidd o'r enw Société pour la Datguddiad du Droit des Femmes gyfarfod yn nhŷ André Léo. Roedd yr aelodau'n cynnwys Paule Minck, Louise Michel, Eliska Vincent, Élie Reclus a'i wraig Néomie, Mme Jules Simon a Caroline de Barrau. Darbwyllwyd Maria Deraismes i gymryd rhan. Oherwydd yr ystod eang o safbwyntiau, penderfynodd y grŵp ganolbwyntio ar un tir canol - gwella addysg merched.[6] Yn 1870, sefydlodd Deraismes L'Association ar y cyd â Léon Richer a chyfrannodd tuag at bapur Richer, sef Lechit des femmes Richer.[7]

Roedd ei bys ar byls gwleidyddiaeth y dydd, a deallodd bod gwleidyddiaeth newydd y dydd yn golygu ymagwedd fwy cymedrol o dan y Drydedd Weriniaeth (La Troisième République) er mwyn i ffeministiaeth oroesi a pheidio â chael ei gwthio i'r cyrion gan y brid newydd o froceriaid pŵer gwrywaidd a oedd yn dod i'r amlwg. Cydnabuwyd gwaith Deraismes yn lloegr a daeth yn gryn dylanwad ar yr ymgyrchydd Americanaidd Elizabeth Cady Stanton, a gyfarfu â hi ym Mharis ym 1882.

Cyhoeddwyd casgliad o'i holl waith ym 1895. Gellir dod o hyd i lawer o wybodaeth am ei gwaith yn y Bibliothèque Marguerite Durand ym Mharis.

Ffedogwraig golygu

 
Cerflun o Maria Deraismes (1836-1894) a wnaed yn 1893

Derbyniwyd Maria Deraismes yn un o'r Seiri Rhyddion (neu 'ffedogwyr') ar 14 Ionawr 1882, pan oedd yn dal yn anarferol i fenyw gael ei derbyn i'r frawdoliaeth honno. Ymunodd â chyfrinfa Les Libres Penseurs ym mhentref Pecq, ychydig i'r gorllewin o Baris. Flwyddyn yn ddiweddarach, trefnodd hi a Georges Martin gyfrinfa Masonig a oedd yn caniatáu dynion a merched yn aelodau. O'r gyfrinfa hon y datblygodd y Brif Gyfrinfa Grande Loge Symbolique Ecossaise "Le Droit Humain", a dyfodd yn Urdd Rhyngwladol y Seiri Rhyddion a elwir yn Le Droit Humain.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Le Droit Humain, Cynghrair Ffrainc ar gyfer Hawliau Merched am rai blynyddoedd. [8]

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. "Le Petit Parisien", Obituary, 7 Chwefror 1894, Gallica, accessed 23 Hydref 2013
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11899662x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11899662x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11899662x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2017. "Maria Deraismes". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Maria Deraismes". "maria deraismes".
  5. Man claddu: https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/02/Tombe_de_Maria_Deraismes_%28division_31%29.JPG/800px-Tombe_de_Maria_Deraismes_%28division_31%29.JPG.
  6. McMillan 2002, t. 130.
  7. Bidelman 1976, t. 94ff.
  8. Aelodaeth: https://gallica.bnf.fr/ark:/12148/bpt6k57435043/f5.image.

llyfryddiaeth golygu