Brawdoliaeth gyfrin a ddechreuwyd o bosib rhwng diwedd 16g a dechrau'r 17g yw brawdolaeth y Seiri Rhyddion (neu Fasoniaeth)[1][2]

Y Sgwâr a'r Cwmpas, un o symbolau amlycaf y Seiri Rhyddion.
(Weithiau ceir y llythyren G yn y canol.)
Ynydiad i'r Seiri Rhyddion yn y 18fed ganrif.

Mae tarddiad y mudiad yn niwlog a cheir fersiynau gwahanol o Fasoniaeth ledled y byd. Amcangyfrifir fod gan y mudiad tua chwe miliwn o aelodau, gyda thua 150,000 ohonynt yn yr Alban ac Iwerddon, a thros chwarter miliwn o dan reolaeth Cyfrinfa Unedig Lloegr[3] ac ychydig o dan dau filiwn yn yr Unol Daleithiau.[4]

Rhennir gweinyddiaeth y frawdoliaeth yn Brif Gyfrinfeydd, gyda phob un ohonynt yn gyfrifol am eu hardal eu hunain, sy'n cynnwys is-Gyfrinfeydd. Mae'r amryw Prif Gyfrinfeydd yn cydnabod ei gilydd ai peidio yn seiliedig ar dirnodau (mae Cyfrinfeydd Mawrion sy'n rhannu tirnodau cyffredin a'i gilydd yn ystyried ei gilydd yn Gyfrinfeydd Mawrion Cyson, a'r rhai nad ydynt yn gyson yn "anghyson" neu'n "ddirgel"). Mae canghennau hefyd yn bodoli sy'n rhan o brif ffrwd y Seiri Rhyddion, ond maent yn annibynnol o ran llywodraethu.

Defnyddia ysgrifenwyr rhyddiaeth y trosiad o offer a theclynnau seiri maen, gydag adeiladu Teml y Brenin Solomon yn gefnlen alegorïaidd iddo ers blynyddoedd. Y bwriad yw i gyfleu'r hyn y mae Seiri Rhyddion a beirniaid o'r system wedi disgrifio fel "system foesol dan orchudd alegori ac wedi'i darlunio gan symbolau".[5][6] Mae'r opera Die Zauberflöte (Y Ffliwt Hud) gan Mozart yn orlawn o'r math yma o symbolau.

Mae'r Seiri Rhyddion yn gwneud gwaith elusennol yn eu cymunedau ac yn hybu moesau a chyfeillgarwch gan aelodau'r frawdoliaeth. Mae natur gyfrinachol y Seiri Rhyddion wedi ennyn cryn wrthwynebiad trwy gydol eu hanes, yn ogystal â nifer o ddamcaniaethau cydgynllwyniol.

Gwrthwynebiad i Fasoniaeth golygu

Yr Eglwys Gatholig golygu

Ers 1738 mae'r Eglwys Gatholig yn gwahardd ei haelodau rhag ymaelodi â'r Seiri Rhyddion. Cyhoeddwyd nifer o fylau pabyddol sy'n ailadrodd cred yr Eglwys fod Masonieth yn groes i ddysgeidiaeth Gristnogol. Ni cheir Catholigion sy'n dod yn Seiri Rhyddion dderbyn y cymun.

William Morgan golygu

Ysgrifennodd William Morgan o Efrog Newydd (1774–1826?) lyfr yn erbyn y Seiri Rhyddion, sef The Mysteries of Free Masonry.[7] Diflannodd o wyneb y Ddaear a chred rhai iddo gael ei herwgipio a'i ladd gan y frawdoliaeth.[8]

Mwslimiaid golygu

Mae Mwslimiaid yn edrych ar Saer Rhydd fel cefnogwr i Israel. Dywed Erthygl 28 o Gyfamodau Hamas fod athroniaeth y Seiri Rhyddion yn "gweithio dros Seioniaeth ac oddi tanynt".[9]

Natsïaeth golygu

Oherwydd ymglymiad honedig y Seiri Rhyddion i Seioniaeth, danfonwyd llawer o Seiri Rhyddion i wersylloedd crynhoi gan y Natsïaid, lle bu rhaid iddynt wisgo bathodyn coch oedd yn dynodi eu statws fel "carcharorion gwleidyddol".

Rhai o adeiladau'r Seiri Rhyddion yng Nghymru golygu

Seiri Rhyddion enwog golygu

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


  1. O'r Saesneg Masonry/Freemasonry, o mason sef saer maen.
  2. Gelwir ei haelodau'n saeri rhydd neu'n 'ffedogwyr' ar lafar; gair sy'n tarddu o'u harferiad i wesgo ffedog seremoniol.
  3.  Frequently Asked Questions. United Grand Lodge of England.
  4. Hodapp, Christopher. Freemasons for Dummies. Indianapolis: Wiley, 2005. t. 52.
  5. . OCLC 1017058 http://www.newadvent.org/cathen/09771a.htm. Unknown parameter |lleoliad= ignored (help); Unknown parameter |enw= ignored (help); Unknown parameter |gwyddoniadur= ignored (help); Unknown parameter |cyfrol= ignored (help); Unknown parameter |cyhoeddwr= ignored (help); Unknown parameter |teitl= ignored (help); Unknown parameter |dyddiad= ignored (help); Unknown parameter |cyfenw= ignored (help); Unknown parameter |adalwyd ar= ignored (help); Unknown parameter |golygydd= ignored (help); Missing or empty |title= (help)
  6. Masonic Service Association - Short Talk Bulletin as reprinted on the website of the Grand Lodge of Louisiana.
  7. Llyfr William Morgan ar-lein
  8. "Stori William Morgan" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2009-03-26. Cyrchwyd 2011-12-12.
  9. Gwefan Prifysgol Iâl.