Awdures o Ffrainc oedd Y Dywysoges Marie Bonaparte (2 Gorffennaf 1882 - 21 Medi 1962) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur, seicolegydd, cyfieithydd a seicdreiddydd.

Marie Bonaparte
Ganwyd2 Gorffennaf 1882 Edit this on Wikidata
Saint-Cloud Edit this on Wikidata
Bu farw21 Medi 1962 Edit this on Wikidata
Gassin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Galwedigaethseicolegydd, cyfieithydd, ysgrifennwr, seicdreiddydd Edit this on Wikidata
TadRoland Bonaparte Edit this on Wikidata
MamMarie-Félix Blanc Edit this on Wikidata
PriodSiôr o Wlad Groeg a Denmarc Edit this on Wikidata
Planty Tywysog Pedr o Wlad Groeg a Denmarc, Y Dywysoges Eugénie o Wlad Groeg a Denmarc Edit this on Wikidata
LlinachTylwyth Bonaparte Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Seintiau Olga a Sophia Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Ganwyd Y Dywysoges Marie Bonaparte yn nhref Saint-Cloud, yn Hauts-de-Seine, Île-de-France. Hi oedd unig blentyn Y Tywysog Roland Bonaparte (gor-nai Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc) a Marie-Félix Blanc. Ei thad-cu ar ochr ei thad oedd y Tywysog Pierre Napoleon Bonaparte, mab Lucien Bonaparte, Tywysog Cyntaf Canino a Musigano, brawd iau gwrthryfelgar Napoleon, Ymherawdr Ffrainc. Oherwydd hyn ac er gwaethaf ei theitl, nid oedd Marie yn aelod o gangen frenhinol teulu Bonaparte a hawliodd orsedd imperialaidd Ffrainc o alltudiaeth. Etifeddodd Marie ffortiwn sylweddol o ochr ei mam a chan ei thad-cu, François Blanc oedd yn datblygu eiddo ym Monte Carlo. Bu farw ei mam yn fuan wedi'r enedigaeth a chafodd arian Marie ei reoli yn ystod ei phlentyndod gan ei thad oedd heb fawr o adnoddau ariannol ei hun. Daearyddwr a botanegwr oedd ei thad a bu'n byw gydag ef ym Mharis ac mewn amrywiol ystadau yn Ffrainc lle byddai'n astudio, yn ysgrifennu ac yn darlithio. Rhoddodd sawl un gynnig ar ei phriodi ond yn dilyn cinio Parisaidd rhwng y Twysog Roland a Siôr I, brenin Groeg, ym mis Medi 1906, cytunwyd mai'r Tywysog Siôr o Roeg a Denmarc fyddai darpar-ŵr Marie Bonaparte. Priodwyd hwy mewn gwasanaeth sifil ac yn dilyn hynny, seremoni Roegaidd Uniongred ar 2 Rhagfyr 1907 yn Athen. Cawsant fab, Peter (1908–1980), a merch, Eugénie (1910–1989). Er y byddai Marie yn ymuno gyda'i gŵr yng ngwlad Groeg ar gyfer gwyliau cenedlaethol neu seremonïau brenhinol, treuliasant eu hamser gyda'i gilydd gan mwyaf yn ei hystadau hi yn Ffrainc. Âi Siôr i Athen neu Copenhagen am fisoedd ar y tro tra byddai Marie ym Mharis, neu yn Fiena neu'n teithio gyda'r plant. Cafodd Marie Bonaparte sawl perthynas yn ystod ei phriodas, er enghraifft gydag Aristide Briand, Prif Weinidog Ffrainc a chyda disgybl Freud, Rudolph Loewenstein. Bu'n ymgynghori gyda Freud gan y mynnai ei bod yn dioddef o oerni rhywiol, ac roedd ei hymchwil ynghylch pam ei bod yn methu â chael ei bodloni'n rhywiol hefyd yn cynnwys llawdriniaethau gan y llawfeddyg Josef Halban i symud ei chlirotis yn nes at ei fagina. Bu farw Bonaparte o gancr y gwaed yn Saint-Tropez ym Medi 1962. Cafodd ei hamlosgi yn Marseille a chadwyd ei lludw ym meddrod y Tywysog Siôr yn Tatoi, ger Athen.[1][2]

Addysg a gyrfa golygu

Cafodd Marie ei magu gan diwtoriaid a morynion a gweision tra'n byw gyda'i thad. Ymgiliai rhag cymysgu ag eraill gan dreulio llawer o'i hamser yn darllen ac yn ysgrifennu yn ei dyddlyfrau sy'n dadlennu ei hysbryd chwilfrydig a'i hymrwymiad cynnar i'r dull gwyddonol a amlygwyd yn ysgolheictod ei thad. Roedd Bonaparte yn grediniol ei fod yn dioddef o fethiant rhywiol, ac ymrodd i ymchwilio i hyn. Yn 1924 cyhoeddodd ganlyniadau ei hymchwil gan ddefnyddio'r ffugenw A. E. Narjani a chyflwynodd ei theori ynghylch oerni rhywiol yn y cyfnodolyn meddygol Bruxelles-Médical. Bu'n modelu ar gyfer y celfluniwr modernaidd Constantin Brâncuși a chreodd ei cherflun ohoni Y Dywysoges X gryn sgandal yn 1919 gyda'i bortread ohoni fel ffalws efydd. Oherwydd ei chyfoeth, bu'n ddylanwadol ym maes dadansoddi seicolegol a bu'n gefnogol iawn i ffigyrau amlwg megis Sigmund Freud, gan hwyluso ei ddihangfa o'r Almaen Natsiaidd. Llwyddodd i ddwyn perswad ar Anton Sauerwald, i arwyddo papurau a ganiataodd i Freud adael Fienna a hefyd i'w lyfrau a'i gasgliad o hen bethau a'i ddodrefn gael eu cludo i Lundain. Gwnaed hanes ei pherthynas gyda Sigmund Freud, yn cynnwys cynorthwyo gydag alltudiaeth y teulu, yn ffilm deledu yn 2004, Princesse Marie, gyda Catherine Deneuve yn chwarae rhan y Dywysoges Marie Bonaparte a Heinz Bennent yn chware rhan Freud.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Girard, Patrick (1999-02-10) (yn fr), Ces Don Juan qui nous gouvernent, Editions 1, p. PT17, ISBN 978-2-84612-351-8, https://books.google.com/books?id=nTvRyGUEny0C&pg=PT17, adalwyd 2017-11-10
  2. 2.0 2.1 Peter Cryle and Alison Moore, Frigidity, an Intellectual History (Palrgave, 2011)