Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc
Roedd Napoleone Buonaparte (yn wreiddiol, yn Eidaleg a Chorseg) neu Napoléon Bonaparte yn Ffrangeg), neu Napoleon I ar ôl 1804, (15 Awst 1769 – 5 Mai 1821) yn rheolwr Ffrainc o 1799; daeth i gael ei gydnabod fel Ymerawdwr Cyntaf Ffrainc o dan yr enw Napoléon I le Grand (Napoleon I "y Mawr") o 18 Mai 1804 hyd 6 Ebrill 1814, cyfnod pan reolai ran fawr o orllewin a chanolbarth Ewrop yn ogystal â Ffrainc. Apwyntiodd nifer o'i berthnasau, o'r teulu Bonaparte, i reoli fel yn brenhinoedd mewn gwledydd eraill, ond daeth rheolaeth y mwyafrif ohonyn i ben pan gwympodd Napoleon o rym. Bu farw Napoleon ar ynys Saint Helena yn ne Cefnfor Iwerydd.
Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Napulione Buonaparte ![]() 15 Awst 1769 ![]() Ajaccio ![]() |
Bu farw | 5 Mai 1821 ![]() Longwood House ![]() |
Man preswyl | Saint Helena, Ajaccio, Paris, Ynys Elba ![]() |
Dinasyddiaeth | y Weriniaeth Ffrengig Gyntaf, Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, gwladweinydd, swyddog milwrol, casglwr celf, ymerawdwr, brenin neu frenhines, ymgyrchydd brwd, arweinydd milwrol ![]() |
Swydd | Ymerawdwr y Ffrancwyr, Cyd-Dywysog Ffrainc, Ymerawdwr y Ffrancwyr, Prif Gonswl, Brenhinoedd yr Eidal, Cyd-Dywysog Ffrainc, pennaeth y wladwriaeth, arlywydd ![]() |
Taldra | 168 centimetr ![]() |
Tad | Carlo Bonaparte ![]() |
Mam | Letizia Ramallo ![]() |
Priod | Joséphine de Beauharnais, Marie Louise, Duges Parma ![]() |
Partner | Marie Walewska, Pauline Fourès, Emilie Kraus von Wolfsberg, Elisabeth de Vaudey, Eléonore Denuelle de La Plaigne, Giuseppina Grassini, Albine de Montholon ![]() |
Plant | Napoleon II, Charles Léon, Alexandre Colonna-Walewski, Eugen Megerle von Mühlfeld ![]() |
Perthnasau | Camillo Borghese, 6ed Tywysog Sulmona, Stéphanie de Beauharnais, Eugène de Beauharnais, Napoleon III, ymerawdwr Ffrainc ![]() |
Llinach | Tylwyth Bonaparte ![]() |
Gwobr/au | Marchog Urdd yr Eliffant, Urdd yr Eryr Gwyn, Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd Sant Anna, Dosbarth 1af, Urdd Alexander Nevsky, Urdd Sant Andreas, Uwch Feistr y Lleng Anrhydedd, uwch groes Urdd Sant Joseff, Urdd y Goron Haearn (Awstria), Urdd Sant Steffan o Hwngari, Urdd Sant Hwbert, Urdd yr Eryr Du, uwch groes Urdd Imperialaidd Crist ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Rhoddir yr enw Rhyfeloedd Napoleon i gyfres o ryfeloedd yn Ewrop rhwng 1804 a 1815. Ymladdwyd y rhyfeloedd rhwng Ffrainc dan Napoleon a nifer o wledydd, yn cynnwys Prydain Fawr, Rwsia, Awstria, Prwsia, Sbaen ac eraill a ffurfiwyd sawl cynghrair gwahanol yn erbyn Napoleon.
Ganed Napoleon ar ynys Corsica yn fuan ar ôl iddi gael ei chyfeddiannu gan Deyrnas Ffrainc.[1] Cefnogodd y Chwyldro Ffrengig yn 1789 tra'n gwasanaethu yn y fyddin Ffrengig, a cheisiodd ledaenu ei delfrydau i Gorsica ei wlad enedigol. Cododd yn gyflym yn y Fyddin ar ôl iddo achub le Directoire trwy ymladd yn erbyn y gwrthryfelwyr brenhinol. Ym 1796, dechreuodd ymgyrch filwrol yn erbyn yr Awstriaid a'u cynghreiriaid Eidalaidd, gan sgorio buddugoliaethau pendant a dod yn arwr cenedlaethol. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, arweiniodd ymgyrch filwrol i'r Aifft a'i sbardunodd i afael mewn gwleidyddiaeth. Ef oedd y tu ol i feddiannu grym yn Nhachwedd 1799 a daeth yn Gonswl Cyntaf y Weriniaeth.
Roedd gwahaniaethau gyda Phrydain yn golygu bod y Ffrancwyr yn wynebu Rhyfel y Drydedd Glymblaid erbyn 1805. Chwalodd Napoleon y glymblaid hon gyda buddugoliaethau yn Ymgyrch Ulm, ac ym Mrwydr Austerlitz, a arweiniodd at ddiddymu'r Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd. Ym 1806, cymerodd y Bedwaredd Glymblaid arfau yn ei erbyn oherwydd bod Prwsia yn poeni am dwf yn nylanwad Ffrainc ar y cyfandir. Gorchfygodd Napoleon Prwsia ym mrwydrau Jena ac Auerstedt, gorymdeithiodd y Grande Armée i Ddwyrain Ewrop, gorchfygodd y Rwsiaid ym Mehefin 1807 yn Friedland, a gorfodi cenhedloedd gorchfygedig y Bedwaredd Glymblaid i dderbyn Cytundebau Tilsit. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, heriodd yr Awstriaid y Ffrancwyr eto yn ystod Rhyfel y Bumed Glymblaid, ond cadarnhaodd Napoleon ei afael ar Ewrop ar ôl buddugoliaeth ym Mrwydr Wagram.
Gan obeithio ymestyn y "System Gyfandirol", sef ei embargo yn erbyn Llywodraeth Prydain, ymosododd Napoleon ar Benrhyn Iberia a datgan ei frawd Joseph yn Frenin Sbaen ym 1808. Gwrthryfelodd y Sbaenwyr a'r Portiwgaliaid yn Rhyfel y Penrhyn, gan arwain at drechu marsialiaid Napoleon. Lansiodd Napoleon ymosodiad ar Rwsia yn ystod haf 1812. Gwelodd yr ymgyrch a ddilynodd enciliad trychinebus Grande Armée Napoleon .ac ym 1813, ymunodd Prwsia ac Awstria â lluoedd Rwsia yn y Chweched Clymblaid yn erbyn Ffrainc. Arweiniodd ymgyrch filwrol anhrefnus at fyddin glymblaid fawr a drechodd Napoleon ym Mrwydr Leipzig yn Hydref 1813. Ymosododd y glymblaid ar Ffrainc a chipio Paris, gan orfodi Napoleon i ildio'i statws yn Ebrill 1814. Alltudiwyd ef i ynys Elba, rhwng Corsica a'r Eidal. Yn Ffrainc, adferwyd y Bourbons i rym. Fodd bynnag, dihangodd Napoleon o Elba yn Chwefror 1815 a chymerodd reolaeth o Ffrainc.[2][3] Ymatebodd y Cynghreiriaid trwy ffurfio Seithfed Clymblaid, a orchfygodd Napoleon ym Mrwydr Waterloo ym Mehefin 1815. Alltudiwyd ef gan y Prydeinwyr i ynys anghysbell Saint Helena yn yr Iwerydd, lle bu farw yn 1821 yn 51 oed. Cafodd Napoleon ddylanwad enfawr ar y byd modern, gan ddod â diwygiadau rhyddfrydol i'r llu o wledydd a orchfygodd, yn enwedig y Gwledydd Isel, y Swistir, a rhannau o'r Eidal modern a'r Almaen. Gweithredodd bolisïau rhyddfrydol yn Ffrainc a Gorllewin Ewrop.
Cysylltiad â ChymruGolygu
Yn 1828 llongddryllwyd y llong La Jeune Emma ar draeth Cefn Sidan, ger Llanelli a boddwyd Adeline Coquine, nith 12 oed Josephine de Beauharnais, cyn-wraig Napoleon Bonaparte. Claddwyd hi ym mynwent Pen-bre.
Bywyd cynnarGolygu
Roedd teulu Napoleon o darddiad Eidalaidd. Roedd ei hynafiaid ar ochr ei dad, y Buonapartes, yn ddisgynyddion i deulu bonheddig Tosganaidd llai a ymfudodd i Gorsica yn yr 16g ac roedd ei deulu ar ochr ei fam, y Ramolinos, yn ddisgynyddion i deulu bonheddig mân o Weriniaeth Genoa.[4] Roedd y Buonapartes hefyd yn perthyn trwy briodas i'r Pietrasentasiaid, y Costas, y Paravicciniaid, a Bonellis, a holl deuluoedd Corsica o'r tu fewn.[5] Roedd ei rieni Carlo Maria di Buonaparte a Maria Letizia Ramolino yn cadw hen gartref y teulu o'r enw “Casa Buonaparte” yn Ajaccio. Yno, yn y cartref hwn, y ganwyd Napoleon, ar 15 Awst 1769. Ef oedd pedwerydd plentyn a thrydydd mab y teulu. Roedd ganddo frawd hŷn, Joseph, a brodyr a chwiorydd iau Lucien, Elisa, Louis, Pauline, Caroline, a Jérôme. Bedyddiwyd Napoleon yn Gatholig, dan yr enw Napoleon.[6] Yn ei ieuenctid, sillafwyd ei enw hefyd fel Nabulione, Nabulio, Napoline, a Napulione.[7]
Ganed Napoleon yn yr un flwyddyn ag yr ildiodd Gweriniaeth Genoa (cyn dalaith Eidalaidd) ardal Corsica i Ffrainc.[8] Gwerthodd y wladwriaeth yr hawliau sofran flwyddyn cyn ei eni a gorchfygwyd yr ynys gan Ffrainc yn ystod blwyddyn ei eni. Fe'i corfforwyd yn ffurfiol fel talaith yn 1770, ar ôl 500 mlynedd o dan reolaeth Genoa ac 14 mlynedd o annibyniaeth. Ymunodd rhieni Napoleon â gwrthwynebiad Corsica ac ymladd yn erbyn y Ffrancwyr i gadw annibyniaeth, hyd yn oed pan oedd Maria yn feichiog gydag ef. Roedd ei dad yn atwrnai a aeth ymlaen i gael ei enwi'n gynrychiolydd Corsica i lys Louis XVI yn 1777.[9]
Dylanwad cryfaf plentyndod Napoleon oedd ei fam, yr oedd ganddi ddisgyblaeth gadarn.[9] Yn ddiweddarach, dywedodd Napoleon, "Mae tynged y plentyn yn y dyfodol bob bob amser yn nwylo'r fam."[10] Priododd mam-gu Napoleon â theulu Fesch y Swistir yn ei hail briodas, a byddai ewythr Napoleon, y cardinal Joseph Fesch, yn cyflawni rôl fel gwarchodwr teulu Bonaparte am rai blynyddoedd. Roedd cefndir bonheddig, gweddol gyfoethog Napoleon yn rhoi mwy o gyfleoedd iddo astudio nag oedd ar gael i Gorsicaniaid nodweddiadol y cyfnod.[11]
Pan drodd yn 9 oed symudodd i dir mawr Ffrainc a chofrestru mewn ysgol grefyddol yn Autun yn Ionawr 1779[12][13]. Ym Mai, trosglwyddodd gydag ysgoloriaeth i academi filwrol yn Brienne-le-Château.[14] Yn ei ieuenctid roedd yn genedlaetholwr Corsicaidd di-flewyn-ar-dafod a chefnogodd annibyniaeth y wladwriaeth oddi wrth Ffrainc.[12][15] Fel llawer o Gorsiciaid, roedd Napoleon yn siarad ac yn darllen Corseg (fel ei famiaith) ac Eidaleg (fel iaith swyddogol Corsica).[16][17][18][15] Dechreuodd ddysgu Ffrangeg yn yr ysgol pan oedd tua 10 oed.[16] Er iddo ddod yn rhugl yn Ffrangeg, siaradodd ag acen Corsica nodedig ac ni ddysgodd sut i sillafu'n gywir yn Ffrangeg.[19] O ganlyniad, roedd ei gyd-ddisgyblion yn gwahaniaethu yn erbyn Napoleon oherwydd ei ymddangosiad corfforol a'i acen wahanol.[15] Fodd bynnag, nid oedd yn achos unigol, gan yr amcangyfrifwyd yn 1790 bod llai na 3 miliwn o bobl, allan o boblogaeth Ffrainc o 28 miliwn, yn gallu siarad Ffrangeg safonol, ac roedd y rhai a allai ei hysgrifennu'n gywir yn fach oawn.[20]
Bwliwyd Napoleon yn aml gan ei gyfoedion, a'i watwar am ei acen, man geni, ei daldra byr, ei ddifyg moesgarwch a'i anallu i siarad Ffrangeg yn gyflym.[17] Daeth yn fewnblyg ac yn felancolig, a chiliodd at ei lyfrau. Sylwodd arholwr fod Napoleon “bob amser yn dda am fathemateg. Mae'n weddol gyfarwydd â hanes a daearyddiaeth . . . Byddai’r bachgen hwn yn gwneud morwr rhagorol.”[21]
Un stori a adroddwyd am Napoleon yn yr ysgol yw ei fod wedi arwain myfyrwyr iau i fuddugoliaeth yn erbyn myfyrwyr hŷn mewn brwydr peli eira, gan ddangos ei allu i arwain.[22] Yn oedolyn ifanc, rhoddodd Napoleon ei fryd ar fod yn awdur; ysgrifennodd hanes Corsica a lluniodd nofel ramantus.[12]
Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn Brienne ym 1784, derbyniwyd Napoleon i'r École Militaire ym Mharis. Hyfforddodd i fod yn swyddog magnelau a, phan leihawyd ei incwm, yn dilyn marwolaeth ei dad, fe'i gorfodwyd i gwblhau'r cwrs dwy flynedd mewn blwyddyn.[23] Ef oedd y Corsican cyntaf i raddio o'r École Militaire.[23] Archwiliwyd ef gan y gwyddonydd enwog Pierre-Simon Laplace . [24]
Gyrfa gynnarGolygu
Wedi graddio ym Medi 1785, comisiynwyd Bonaparte yn ail raglaw yng nghatrawd magnelau La Fère.[14] Gwasanaethodd yn Valence ac Auxonne tan ar ôl dechrau'r Chwyldro yn 1789. Roedd y dyn ifanc yn dal i fod yn genedlaetholwr Corsican brwd yn ystod y cyfnod hwn[25] a gofynnodd am ganiatâd i ymuno â'i fentor Pasquale Paoli, pan ganiatawyd i'r olaf ddychwelyd i Gorsica gan y Cynulliad Cenedlaethol. Nid oedd gan Paoli unrhyw gydymdeimlad â Napoleon, fodd bynnag, gan ei fod yn ystyried ei dad yn fradwr am iddo adael ei achos dros annibyniaeth Corsica.[26]
Treuliodd flynyddoedd cynnar y Chwyldro yng Nghorsica, gan ymladd mewn brwydr dair-ochr gymhleth rhwng y brenhinwyr, y chwyldroadwyr, a chenedlaetholwyr Corsica. Daeth Napoleon, fodd bynnag, i gofleidio delfrydau'r Chwyldro, gan ddod yn gefnogwr i'r Jacobiniaid ac ymuno â Gweriniaethwyr Corsica o blaid Ffrainc a oedd yn gwrthwynebu polisi Paoli a'i ddyheadau o annibyniaeth i Gorsica.[27] Cafodd reolaeth dros fataliwn o wirfoddolwyr a chafodd ei ddyrchafu'n gapten yn y fyddin arferol ym mis Gorffennaf 1792, er iddo fynd y tu hwnt i'w waith pan aeth yn absennol ac arwain grwp o derfysgwyr yn erbyn milwyr Ffrainc.[28] Pan ddatganodd Corsica ymwahaniad ffurfiol oddi wrth Ffrainc a gofyn am amddiffyniad llywodraeth Prydain daeth Napoleon a'i ymrwymiad i'r Chwyldro Ffrengig i wrthdaro â Paoli, a oedd wedi penderfynu difrodi cyfraniad Corsica i'r Exédition de Sardaigne, trwy atal ymosodiad Ffrainc ar y ynys Sardinaidd La Maddalena.[29] Gorfodwyd Bonaparte a'i deulu i ffoi i Toulon ar dir mawr Ffrainc ym Mehefin 1793 oherwydd y rhwyg â Paoli.[30]
Er iddo gael ei eni yn "Napoleone Buonaparte", dim ond wedi hyn y dechreuodd Napoleon ddefnyddio'r enw byr "Napoléon Bonaparte" ond ni ollyngodd ei deulu yr enw Buonaparte tan 1796. Y cofnod cyntaf y gwyddys amdano yn arwyddo ei enw fel Bonaparte oedd yn 27 oed (yn 1796).[31][6]
Gwarchae ar ToulonGolygu
Yng Ngorffennaf 1793, cyhoeddodd Bonaparte bamffled gweriniaethol o'r enw Le souper de Beaucaire (Swper yn y Beaucaire) a enillodd iddo gefnogaeth Augustin Robespierre, brawd iau yr arweinydd Chwyldroadol Maximilien Robespierre. Gyda chymorth ei gyd-Gorsican Antoine Christophe Saliceti, penodwyd Bonaparte yn uwch ynnwr a phennaeth y magnelau yn y lluoedd gweriniaethol a gyrhaeddodd Toulon ar 8 Medi.[32][33]
Creodd gynllun i gipio bryn lle gallai ei fagnelau ddominyddu harbwr y ddinas a gorfodi’r Prydeinwyr i adael. Arweiniodd yr ymosodiad ar y safle at gipio'r ddinas, ond yn ystod y frwydr, clwyfwyd Bonaparte yn ei glun ar 16 Rhagfyr. Cymeradwydwyd ei allu a gosodwyd ef yng ngofal magnelau Byddin Ffrainc yn yr Eidal.[34] Ar 22 Rhagfyr yr oedd ar ei ffordd i'w swydd newydd yn Nice, wedi ei ddyrchafu'n frigadydd-gadfridog yn 24 oed. Dyfeisiodd gynlluniau ar gyfer ymosod ar deyrnas Sardinia fel rhan o ymgyrch Ffrainc yn erbyn y Glymblaid Gyntaf.
Gweithredodd byddin Ffrainc gynllun Bonaparte ym Mrwydr Saorgio yn Ebrill 1794, ac yna symud ymlaen i gipio Ormea yn y mynyddoedd. O Ormea, aethant i'r gorllewin i ragori ar safleoedd Awstro-Sardinaidd o amgylch Saorge. Ar ôl yr ymgyrch hon, anfonodd Augustin Robespierre Bonaparte ar genhadaeth i Weriniaeth Genoa i ganfod bwriad y wlad honno tuag at Ffrainc.[35]
Oherwydd ei sgiliau technegol, gofynnwyd iddo lunio cynlluniau i ymosod ar safleoedd yr Eidal yng nghyd-destun rhyfel Ffrainc yn erbyn Awstria. Cymerodd ran hefyd mewn alldaith i gymryd Corsica yn ôl oddi wrth y Prydeinwyr, ond gwrthyrrwyd y Ffrancwyr gan y Llynges Frenhinol Brydeinig.[36]
Erbyn 1795, roedd Bonaparte wedi dyweddïo â Désirée Clary, merch François Clary. Roedd chwaer Désirée, Julie Clary, wedi priodi brawd hynaf Bonaparte, Joseph.[37] Yn Ebrill 1795, ymunodd a Byddin y Gorllewin, a fu'n ymwneud â Rhyfel y Vendée — rhyfel cartref a gwrth-chwyldro brenhinol yn Vendée, rhanbarth yng ngorllewin canolbarth Ffrainc ar Gefnfor yr Iwerydd. Fel un a oedd yn gyfrifol am filwyr traed, ystyriodd y swydd yn israddol i gadfridog y magnelau a phlediodd afiechyd er mwyn osgoi’r gwaith.[38]
Symudwyd ef i Swyddfa Topograffeg Pwyllgor Diogelwch y Cyhoedd, a cheisiodd yn aflwyddiannus am gael ei drosglwyddo i Gaergystennin er mwyn cynnig ei wasanaeth i'r Swltan, Selim III.[39] Yn ystod y cyfnod hwn, ysgrifennodd y nofel ramantus Clisson et Eugénie, am filwr a'i gariad, a oedd yn adlewyrchiad perffaith o berthynas go-iawn Bonaparte â Désirée.[40] Ar 15 Medi, tynnwyd Bonaparte oddi ar restr y cadfridogion a oedd yn gwasanaethu'n rheolaidd am iddo wrthod gwasanaethu yn y Vendée. Roedd yn wynebu sefyllfa ariannol anodd a llai o ragolygon gyrfa.[41]
Ar 3 Hydref, datganodd brenhinwyr ym Mharis wrthryfel yn erbyn y Convention nationale (Llywodraeth y Chwyldro Ffrengig).[42] Gwyddai Paul Barras, un o arweinwyr Thermidor, am orchestion milwrol Bonaparte yn Toulon a rhoddodd iddo reolaeth ar y lluoedd i amddiffyn y llywodraeth ym Mhalas Tuileries. Roedd Napoleon wedi gweld cyflafan Gwarchodlu'r Swistir yn y Brenin yno dair blynedd ynghynt a sylweddolodd mai magnelau fyddai'r allwedd i'w hamddiffyn.[14]
Gorchmynnodd i swyddog marchfilwyr ifanc o'r enw Joachim Murat atafaelu canonau mawr a'u defnyddio i wrthyrru'r ymosodwyr ar 5 Hydref 1795— 13 Vendémiaire An IV yng Nghalendar y Chwyldroadwyr Ffrengig; bu farw 1,400 o frenhinwyr a ffodd y gweddill.[42] Roedd wedi clirio'r strydoedd gyda chwythiad o "arogl grawnwin", yn ôl yr hanesydd Albanaidd Thomas Carlyle yn ei gyfrol y Chwyldro Ffrengig: A History a gyhoeddwyd mewn tair rhan yn 1837.[43][44]
Yn sgil gorchfygu gwrthryfel y brenhinwyr, dilëwyd y bygythiad i'r Confensiwn ac enillodd Bonaparte enwogrwydd sydyn, ac enillodd gyfoeth a nawdd y llywodraeth newydd y Directoire. Priododd Murat ag un o chwiorydd Napoleon, gan ddod yn frawd-yng-nghyfraith iddo; a gwasanaethodd hefyd, yn ddiweddarach, o dan Napoleon fel un o'i gadfridogion. Dyrchafwyd Bonaparte yn Gadlywydd Byddin Ffrainc yn yr Eidal.[30]
Ymhen ychydig wythnosau bu'n ymwneud yn rhamantus â Joséphine de Beauharnais, cyn-feistres Barras. Priododd y cwpl ar 9 Mawrth 1796 mewn seremoni sifil.[45]
Dau ddiwrnod ar ôl y briodas, gadawodd Bonaparte Baris i gymryd rheolaeth o Fyddin Ffrainc yn yr Eidal. Aeth ati i ymosod yn syth, gan obeithio trechu lluoedd Piedmont cyn y gallai eu cynghreiriaid Awstriaidd ymyrryd. Mewn cyfres o fuddugoliaethau cyflym yn ystod Ymgyrch Montenotte, curodd Piedmont yn llwyr mewn pythefnos cwta. Yna canolbwyntiodd y Ffrancwyr ar yr Awstriaid am weddill y rhyfel, a gorchfygodd Napoleon ym mrwydrau Castiglione, Bassano, Arcole, a Rivoli. Arweiniodd buddugoliaeth bendant Ffrainc yn Rivoli yn Ionawr 1797 at ddymchwel safle Awstria yn yr Eidal. Yn Rivoli, collodd yr Awstriaid hyd at 14,000 o filwyr tra collodd y Ffrancod tua 5,000.[46]
Roedd cam nesaf yr ymgyrch yn cynnwys goresgyniad Ffrainc o gadarnleoedd Habsburg. Roedd lluoedd Ffrainc yn Ne'r Almaen wedi cael eu trechu gan yr Archddug Charles ym 1796, ond tynnodd yr Archddug ei luoedd yn ôl i amddiffyn Fienna ar ôl dysgu am ymosodiad Napoleon. Yn y cyfarfod cyntaf rhwng y ddau gadlywydd, gwthiodd Napoleon ei wrthwynebydd yn ôl a symud ymlaen yn ddwfn i diriogaeth Awstria ar ôl ennill ym Mrwydr Tarvis ym mis Mawrth 1797. Dychrynwyd yr Awstriaid gan y gwthiad Ffrengig a gyrhaeddodd yr holl ffordd i Leoben, tua 100 km o Vienna, ac o'r diwedd penderfynodd ofyn am heddwch.[47] Rhoddodd Cytundeb Leoben, a ddilynwyd gan Gytundeb Campo Formio mwy cynhwysfawr, reolaeth i Ffrainc ar y rhan fwyaf o ogledd yr Eidal a'r Gwledydd Isel, ac addawodd cymal cyfrinachol Gweriniaeth Fenis i Awstria. Gorymdeithiodd Bonaparte ar Fenis a gorfodi ei hildio, gan ddod â 1,100 o flynyddoedd o annibyniaeth Fenis i ben. Awdurdododd hefyd y Ffrancwyr i ysbeilio trysorau megis Ceffylau Sant Marc.[48] Ar y daith, bu Bonaparte yn sgwrsio llawer am ryfelwyr megis Alecsander, Cesar, Scipio a Hannibal. Astudiodd eu strategaeth a'i chyfuno â'i strategaeth ei hun. Mewn cwestiwn o Bourrienne, yn gofyn a oedd yn rhoi ei ffafriaeth i Alecsander neu Gesar, dywedodd Napoleon ei fod yn gosod Alecsander Fawr yn y rheng gyntaf oherwydd llwyddiant ei ymgyrch ar Asia.[49]
Galluogodd ei ddefnydd o syniadau milwrol confensiynol i sefyllfaoedd yn y byd go iawn ei fuddugoliaethau milwrol, megis defnydd creadigol o fagnelau fel grym symudol i gefnogi ei filwyr traed. Dywedodd yn ddiweddarach: "Dw i wedi ymladd chwe-deg o frwydrau, a dysgais ddiawl o ddim na wyddwn ar y dechrau. Edrych ar Cesar; ymladdodd y cyntaf fel yr olaf."[50]
Enillodd Bonaparte ei frwydrau trwy guddio'i filwyr a chanolbwyntio ei luoedd ar "gilfach" ffrynt wanaf y gelyn. Pe na bai'n gallu defnyddio ei hoff strategaeth o amgylchynu, byddai'n cymryd y safle canolog ac yn ymosod ar ddau rym cydweithredol wrth eu colfach, gan siglo rownd i ymladd un nes iddo ffoi, yna troi i wynebu'r llall.[51] Yn yr ymgyrch Eidalaidd hon, daliodd byddin Bonaparte 150,000 o garcharorion, 540 o ganonau, a 170 o gludwyr baner.[52] Ymladdodd byddin Ffrainc 67 gweithred (neu ymladdfa) ac ennill 18 o frwydrau trwy gyfrwng technoleg magnelau uwchraddol a thactegau unigryw Bonaparte.[53]
Yn ystod yr ymgyrch, daeth Bonaparte yn gynyddol ddylanwadol yng ngwleidyddiaeth Ffrainc. Sefydlodd ddau bapur newydd: un ar gyfer y milwyr yn ei fyddin ac un arall ar gyfer cylchrediad yn Ffrainc.[54] Ymosododd y brenhinwyr ar Bonaparte am ysbeilio'r Eidal a rhybuddiodd y gallai ddod yn unben.[55] Amcangyfrifir bod lluoedd Napoleon wedi tynnu $45 miliwn mewn arian o'r Eidal yn ystod eu hymgyrch yno, a gwerth $12 miliwn arall mewn metelau a thlysau gwerthfawr. Atafaelodd ei luoedd hefyd fwy na 300 o baentiadau a cherfluniau amhrisiadwy.[56]
Anfonodd Bonaparte y Cadfridog Pierre Augereau i Baris i arwain coup d'état a chael gwared ar y brenhinwyr ar 4 Medi - Coup of 18 Fructidor. Gadawodd hyn Barras a'i gynghreiriaid Gweriniaethol i reoli eto, ond yn ddibynnol ar Bonaparte, a aeth ymlaen i drafodaethau heddwch gydag Awstria. Arweiniodd y trafodaethau hyn at Gytundeb Campo Formio, a dychwelodd Bonaparte i Baris yn Rhagfyr fel arwr.[57] Cyfarfu â Talleyrand, Gweinidog Tramor newydd Ffrainc — a wasanaethodd yn yr un modd i'r Ymerawdwr Napoleon — a dechreuasant baratoi ar gyfer goresgyn Lloegr (a alwai ei hun yn 'Prydain').[30]
Alldaith EifftaiddGolygu
Ar ôl deufis o gynllunio, penderfynodd Bonaparte nad oedd llynges Ffrainc yn ddigon cryf, eto, i wynebu'r Llynges Frenhinol Brydeinig. Penderfynodd ar daith filwrol i gipio'r Aifft a thrwy hynny danseilio mynediad Prydain i'w diddordebau masnachol yn India.[30] Dymunai Bonaparte sefydlu presenoldeb Ffrengig yn y Dwyrain Canol ac ymuno â Tipu Sultan, Swltan Mysore a oedd yn elyn i'r Prydeinwyr.[58] Sicrhaodd Napoleon ei Lywodraeth “cyn gynted ag y byddai wedi goresgyn yr Aifft, byddai'n sefydlu perthynas â thywysogion India ac, ynghyd â hwy, yn ymosod ar y Saeson yno”.[59] Cytunodd y Directory er mwyn sicrhau llwybr masnach i is-gyfandir India.[60]
Ym Mai 1798, etholwyd Bonaparte yn aelod o Academi Gwyddorau Ffrainc (Académie des Sciences). Roedd ei daith Eifftaidd yn cynnwys grŵp o 167 o wyddonwyr, gyda mathemategwyr, naturiaethwyr, cemegwyr, a geodesyddion yn eu plith. Ymhlith eu darganfyddiadau roedd Carreg Rosetta, a chyhoeddwyd eu gwaith yn y Description de l'Égypte yn 1809.[61]
Ar y ffordd i'r Aifft, cyrhaeddodd Bonaparte Malta ar 9 Mehefin 1798, a reolir ar y pryd gan Farchogion yr Ysbyty. Ildiodd y Prif Feistr Ferdinand von Hompesch zu Bolheim ar ôl gwrthwynebiad symbolaidd, a chipiodd Bonaparte sylfaen llynges bwysig gan golli dim ond tri dyn.[62]
Ni chafodd Bonaparte a'i alldaith eu herlid gan y Llynges Frenhinol a glaniodd yn Alexandria ar 1 Gorffennaf.[30] Ymladdodd Brwydr Shubra Khit yn erbyn y Mamluks, cast milwrol o'r Aifft. Helpodd hyn y Ffrancwyr i ymarfer eu tacteg amddiffynnol ar gyfer Brwydr y Pyramidiau, a ymladdwyd ar 21 Gorffennaf, tua 24 cilometr (15 milltir) o'r pyramidiau. Lladdwyd dau ddeg naw o Ffrancwyr[63] a thua 2,000 o Eifftiaid. Rhoddodd y fuddugoliaeth hon hwb enfawr i forâl byddin Ffrainc.[64]
Ar 1 Awst 1798, cipiodd a dinistriodd llynges Prydain (o dan Syr Horatio Nelson) bob un ond dwy o longau llynges Ffrainc ym Mrwydr y Nil, gan drechu nod Bonaparte i gryfhau safle Ffrainc ym Môr y Canoldir.[65] Roedd ei fyddin wedi llwyddo i gynyddu grym Ffrainc dros dro yn yr Aifft, er iddi wynebu gwrthryfeloedd dro ar ôl tro. [66] Yn gynnar yn 1799, symudodd ran o'i fyddin i dalaith Otomanaidd Damascus (Syria a Galilea). Arweiniodd Bonaparte yr 13,000 o filwyr Ffrengig hyn yn y goncwest ar drefi arfordirol Arish, Gaza, Jaffa, a Haifa.[67] Roedd yr ymosodiad ar Jaffa yn arbennig o greulon. Darganfu Bonaparte fod llawer o’r amddiffynwyr yn gyn-garcharorion rhyfel, ar barôl i bob golwg, felly gorchmynnodd i’r garsiwn a 1,400 o garcharorion gael eu dienyddio trwy bidog neu foddi i arebd y bwledi.[65] Cafodd dynion, merched, a phlant eu ladrata a'u llofruddio mewn cyflafan waedlyd dros gyfnod o dridiau.[68]
Dechreuodd Bonaparte gyda byddin o 13,000 o wyr; Adroddwyd bod 1,500 ar goll, bu farw 1,200 wrth ymladd, a bu farw miloedd o afiechyd - o'r pla bubonig yn bennaf. Methodd a chipio caer Acre, felly gorymdeithiodd ei fyddin yn ôl i'r Aifft ym Mai. I gyflymu'r enciliad, gorchmynnodd Bonaparte i ddynion oedd yn dioddef o'r pla (rhwng 30 a 580 ohonyn nhw) gael eu gwenwyno ag opiwm.[69] Yn ôl yn yr Aifft ar 25 Gorffennaf, trechodd Bonaparte ymosodiad amffibaidd gan yr Otomaniaid yn Abukir.[70]
Rheolwr FfraincGolygu
Tra yn yr Aifft, roedd Bonaparte yn derbyn newyddion am faterion Ewropeaidd. Clywodd fod Ffrainc wedi dioddef cyfres o orchfygiadau yn Rhyfel yr Ail Glymblaid.[71] Ar 24 Awst 1799, manteisiodd ar ymadawiad dros dro llongau Prydeinig o borthladdoedd arfordirol Ffrainc a hwylio i Ffrainc, er gwaethaf y ffaith nad oedd wedi derbyn unrhyw orchmynion penodol gan Baris.[65] Gadawyd y fyddin dan ofal Jean-Baptiste Kléber.[72]
Yn anhysbys i Bonaparte, roedd y Directory (y Llywodraeth) wedi ei orchmyn i ddychwelyd i atal ymosodiadau posibl ar Ffrainc, ond roedd llinellau cyfathrebu gwael yn atal y negeseuon hyn rhag cael eu trosglwyddo.[71] Erbyn iddo gyrraedd Paris yn Hydref, roedd sefyllfa Ffrainc wedi gwella trwy gyfres o fuddugoliaethau. Roedd y Weriniaeth, fodd bynnag, yn fethdalwr ac roedd y Directory yn aneffeithiol ac yn amhoblogaidd ymhlith poblogaeth Ffrainc.[73] Roeddent yn trafod fod Bonaparte wedi mynd ar ei liwt ei hun, ond roedden nhw'n rhy wan i'w gosbi.[71]
Er gwaethaf rhai methiannau yn yr Aifft, dychwelodd Napoleon i i Ffrainc fel arwr. Lluniodd gynghrair gyda'r cyfarwyddwr Emmanuel Joseph Sieyès, ei frawd Lucien, Llefarydd y Cyngor Pum Cant, Roger Ducos, y cyfarwyddwr Joseph Fouché, a Talleyrand, ac aethant ati i gipio'r aewnau drwy coup d'état ar 9 Tachwedd 1799 ("y 18fed Brumaire" yn ôl calendr y chwyldro), gan ddod a'r Cyngor Pum Cant i ben. Apwyntiwyd Napoleon yn "gonswl cyntaf" a daliodd y swydd am ddeng mlynedd, gyda dau gonswl wedi eu penodi ganddo oedd â lleisiau ymgynghorol yn unig. Cadarnhawyd ei rym gan “Gyfansoddiad y Flwyddyn VIII”, newydd, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol gan Sieyès i roi rôl bychan i Napoleon, ond a ailysgrifennwyd gan Napoleon ei hun, a’i dderbyn trwy bleidlais boblogaidd uniongyrchol (3,000,000 o blaid, a 1,567 yn erbyn). Cadwodd y cyfansoddiad ymddangosiad o fod yn weriniaeth ond, mewn gwirionedd, sefydlodd unbennaeth.[74][75]
Conswl FfraincGolygu
Sefydlodd Napoleon system wleidyddol a alwodd yr hanesydd Martyn Lyons yn "unbennaeth trwy blebiscite" (neu "unbeniaeth drwy ganiatad y bobl").[76] Poenai am luoedd democrataidd y bobl, a ryddhawyd gan y Chwyldro, ac ni ddymunai eu hanwybyddu, felly aeth Napoleon ati i ymgynghori yn etholiadol reolaidd gyda phobl Ffrainc ar ei ffordd i rym imperialaidd.[76] Drafftiodd Gyfansoddiad y Flwyddyn VIII a sicrhaodd ethol ei hun yn Gonswl Cyntaf, gan fyw yn y Tuileries. Atgyfnerthwyd ei safle y mis Ionawr canlynol, gyda 99.94 y cant wedi'u rhestru'n swyddogol fel rhai a bleidleisiodd "ie".[77]
LlyfryddiaethGolygu
Llyfryddiaeth bywgraffyddolGolygu
- Abbott, John (2005). Life of Napoleon Bonaparte. Kessinger Publishing. ISBN 978-1-4179-7063-6.
- Bell, David A. (2015). Napoleon: A Concise Biography. Oxford and New York: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-026271-6. only 140pp; by a scholar
- Blaufarb, Rafe (2007). Napoleon: Symbol for an Age, A Brief History with Documents. Bedford. ISBN 978-0-312-43110-5.
- Chandler, David (2002). Napoleon. Leo Cooper. ISBN 978-0-85052-750-6.
- Cronin, Vincent (1994). Napoleon. HarperCollins. ISBN 978-0-00-637521-0.
- Dwyer, Philip (2008a). Napoleon: The Path to Power. Yale University Press. ISBN 9780300137545.
- Dwyer, Philip (2013). Citizen Emperor: Napoleon in Power. Yale University Press. ASIN B00GGSG3W4.
- Englund, Steven (2010). Napoleon: A Political Life. Scribner. ISBN 978-0-674-01803-7.
- Gueniffey, Patrice. Bonaparte: 1769–1802 (Harvard UP, 2015, French edition 2013); 1008 pp.; vol 1 of most comprehensive recent scholarly biography by leading French specialist; less emphasis on battles and campaigns excerpt; also online review
- Johnson, Paul (2002). Napoleon: A life. Penguin Books. ISBN 978-0-670-03078-1.; 200 pp.; quite hostile
- Lefebvre, Georges (1969). Napoleon from 18 Brumaire to Tilsit, 1799–1807. Columbia University Press. influential wide-ranging history
- Lefebvre, Georges (1969). Napoleon: from Tilsit to Waterloo, 1807–1815. Columbia University Press. ISBN 9780231033138.
- Lyons, Martyn (1994). Napoleon Bonaparte and the Legacy of the French Revolution. St. Martin's Press.
- Markham, Felix (1963). Napoleon. Mentor.; 303 pp.; short biography by an Oxford scholar online
- McLynn, Frank (1998). Napoleon. Pimlico. ISBN 978-0-7126-6247-5. Nodyn:ASIN.
- Roberts, Andrew (2014). Napoleon: A Life. Penguin Group. ISBN 978-0-670-02532-9.
- Thompson, J.M. (1951). Napoleon Bonaparte: His Rise and Fall. Oxford U.P., 412 pp.; by an Oxford scholar
Ffynonellau cynraddGolygu
- Babelon, Jean-Pierre, D'Huart, Suzanne and De Jonge, Alex. Napoleon's Last Will and Testament. Paddington Press Ltd. New York & London. 1977. ISBN 0-448-22190-X.
- Broadley, A. M., and J. Holland Rose. Napoleon in caricature 1795–1821 (John Lane, 1911) online, illustrated
- Gourgaud, Gaspard (1903) [1899]. Talks of Napoleon at St. Helena. Translated from the French by Elizabeth Wormeley Latimer. Chicago: A.C. McClurg.
HanesyddolGolygu
- Broadley, Alexander Meyrick (1911). Napoleon in Caricature 1795-1821. John Lane, 1911 Caricature.
- Dwyer, Philip G. (2004). "Napoleon Bonaparte as Hero and Saviour: Image, Rhetoric and Behaviour in the Construction of a Legend". French History 18 (4): 379–403. doi:10.1093/fh/18.4.379.
- Dwyer, Philip (2008b). "Remembering and Forgetting in Contemporary France: Napoleon, Slavery, and the French History Wars". French Politics, Culture & Society 26 (3): 110–22. doi:10.3167/fpcs.2008.260306.
- Englund, Steven. "Napoleon and Hitler". Journal of the Historical Society (2006) 6#1 pp. 151–69.
- Geyl, Pieter (1982) [1947]. Napoleon For and Against. Penguin Books.
- Hanson, Victor Davis (2003). "The Claremont Institute: The Little Tyrant, A review of Napoleon: A Penguin Life". The Claremont Institute.
- Hazareesingh, Sudhir (2005). The Legend of Napoleon. excerpt and text search
- Hazareesingh, Sudhir. "Memory and Political Imagination: The Legend of Napoleon Revisited", French History (2004) 18#4 pp. 463–83.
- Hazareesingh, Sudhir (2005). "Napoleonic Memory in Nineteenth-Century France: The Making of a Liberal Legend". MLN 120 (4): 747–73. doi:10.1353/mln.2005.0119.
- Porterfield, Todd, and Susan Siegfried. Staging Empire: Napoleon, Ingres, and David (Penn State Press, 2006). online review.
Astudiaethau arbenigolGolygu
- Alder, Ken (2002). The Measure of All Things – The Seven-Year Odyssey and Hidden Error That Transformed the World. Free Press. ISBN 978-0-7432-1675-3.
- Alter, Peter (2006). T. C. W. Blanning and Hagen Schulze (gol.). Unity and Diversity in European Culture c. 1800. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-726382-2.
- Amini, Iradj (2000). Napoleon and Persia. Taylor & Francis. ISBN 978-0-934211-58-1.
- Archer, Christon I.; Ferris, John R.; Herwig, Holger H. (2002). World History of Warfare. University of Nebraska Press. ISBN 978-0-8032-4423-8.
- Astarita, Tommaso (2005). Between Salt Water And Holy Water: A History Of Southern Italy. W.W. Norton & Company. ISBN 978-0-393-05864-2.
- Bell, David (2007). The First Total War. Houghton Mifflin Harcourt. ISBN 978-0-618-34965-4.
- Bordes, Philippe (2007). Jacques-Louis David. Yale University Press. ISBN 978-0-300-12346-3.
- Brooks, Richard (2000). Atlas of World Military History. HarperCollins. ISBN 978-0-7607-2025-7.
- Chandler, David (1966). The Campaigns of Napoleon. New York: Scribner. ISBN 978-0-02-523660-8. OCLC 740560411.
- Chandler, David (1973) [1966]. Napoleon. ISBN 9780841502543.
- Chesney, Charles (2006). Waterloo Lectures:A Study Of The Campaign Of 1815. Kessinger Publishing. ISBN 978-1-4286-4988-0.
- Clausewitz, Carl von (2018). Napoleon's 1796 Italian Campaign. Trans and ed. Nicholas Murray and Christopher Pringle. Lawrence, Kansas: University Press of Kansas. ISBN 978-0-7006-2676-2
- Clausewitz, Carl von (2020). Napoleon Absent, Coalition Ascendant: The 1799 Campaign in Italy and Switzerland, Volume 1. Trans and ed. Nicholas Murray and Christopher Pringle. Lawrence, Kansas: University Press of Kansas. ISBN 978-0-7006-3025-7
- Clausewitz, Carl von (2021). The Coalition Crumbles, Napoleon Returns: The 1799 Campaign in Italy and Switzerland, Volume 2. Trans and ed. Nicholas Murray and Christopher Pringle. Lawrence, Kansas: University Press of Kansas. ISBN 978-0-7006-3034-9
- Connelly, Owen (2006). Blundering to Glory: Napoleon's Military Campaigns. Rowman & Littlefield. ISBN 978-0-7425-5318-7.
- Cordingly, David (2004). The Billy Ruffian: The Bellerophon and the Downfall of Napoleon. Bloomsbury. ISBN 978-1-58234-468-3.
- Cullen, William (2008). Is Arsenic an Aphrodisiac?. Royal Society of Chemistry. ISBN 978-0-85404-363-7.
- Dobi.A. 1974. “For the Emperor-Bibliophile, Only the Very Best.” Wilson Library Bulletin 49 (November): 229–33.
- Driskel, Paul (1993). As Befits a Legend. Kent State University Press. ISBN 978-0-87338-484-1.
- Esdaile, Charles J. (2003). The Peninsular War: A New History. Macmillan. ISBN 978-1-4039-6231-7.
- Flynn, George Q. (2001). Conscription and democracy: The Draft in France, Great Britain, and the United States. Greenwood Publishing Group. ISBN 978-0-313-31912-9.
- Fremont-Barnes, Gregory; Fisher, Todd (2004). The Napoleonic Wars: The Rise and Fall of an Empire. Osprey. ISBN 978-1-84176-831-1.
- Fulghum, Neil (2007). "Death Mask of Napoleon". University of North Carolina. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 July 2013. Cyrchwyd 4 August 2008.
- Gates, David (2001). The Spanish Ulcer: A History of the Peninsular War. Da Capo Press. ISBN 978-0-306-81083-1.
- Gates, David (2003). The Napoleonic Wars, 1803–1815. Pimlico. ISBN 978-0-7126-0719-3.
- Gill, John H. (2014). 1809: Thunder on the Danube - Napoleon's Defeat of the Habsburgs, Vol. 1. London: Frontline Books. ISBN 978-184415-713-6.
- Godechot, Jacques; et al. (1971). The Napoleonic era in Europe. Holt, Rinehart and Winston. ISBN 978-0-03-084166-8.
- Grab, Alexander (2003). Napoleon and the Transformation of Europe. Macmillan. ISBN 978-0-333-68275-3.
- Hall, Stephen (2006). Size Matters. Houghton Mifflin Harcourt. t. 181. ISBN 978-0-618-47040-2.
- Harvey, Robert (2006). The War of Wars. Robinson. ISBN 978-1-84529-635-3.
- Hindmarsh, J. Thomas; Savory, John (2008). "The Death of Napoleon, Cancer or Arsenic?". Clinical Chemistry 54 (12): 2092. doi:10.1373/clinchem.2008.117358. http://www.clinchem.org/cgi/reprint/54/12/2092. Adalwyd 10 October 2010.
- Karsh, Inari (2001). Empires of the Sand: The Struggle for Mastery in the Middle East, 1789–1923. Harvard University Press. ISBN 978-0-674-00541-9.[dolen marw]
- Mowat, R.B. (1924) The Diplomacy of Napoleon (1924) 350 pp. online
- O'Connor, J; Robertson, E F (2003). "The history of measurement". St Andrew's University. Cyrchwyd 18 July 2008.
- Poulos, Anthi (2000). "1954 Hague Convention for the Protection of Cultural Property in the Event of Armed Conflict". International Journal of Legal Information 28: 1–44. doi:10.1017/S0731126500008842. http://heinonline.org/HOL/LandingPage?collection=journals&handle=hein.journals/ijli28&div=12&id=&page=.
- Richardson, Hubert N.B. A Dictionary of Napoleon and His Times (1921) online free 489pp
- Roberts, Chris (2004). Heavy Words Lightly Thrown. Granta. ISBN 978-1-86207-765-2.
- Schom, Alan (1997). Napoleon Bonaparte. HarperCollins. ISBN 978-0-06-017214-5.
- Schroeder, Paul W. (1996). The Transformation of European Politics 1763–1848. Oxford U.P. tt. 177–560. ISBN 978-0-19-820654-5. advanced diplomatic history of Napoleon and his era
- Schwarzfuchs, Simon (1979). Napoleon, the Jews and the Sanhedrin. Routledge. ISBN 978-0-19-710023-3.
- Watson, William (2003). Tricolor and crescent. Greenwood Publishing Group. ISBN 978-0-275-97470-1. Cyrchwyd 12 June 2009.
- Sicker, Martin (2001). The Islamic World in Decline: From the Treaty of Karlowitz to the Disintegration of the Ottoman Empire. Greenwood. t. 99. ISBN 978-0-275-96891-5.
- Wells, David (1992). The Penguin Dictionary of Curious and Interesting Geometry. Penguin Books. ISBN 978-0-14-011813-1.
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Roberts, A. (2016).
- ↑ Cochran, Peter (16 July 2015). Byron, Napoleon, J.C. Hobhouse, and the Hundred Days. London: Cambridge Scholars Publishing. t. 60. ISBN 978-1443877428. Cyrchwyd 14 June 2021.
- ↑ Forrest, Alan (26 March 2015). Waterloo: Great Battles. Oxford University Press. t. 24. ISBN 978-0199663255. Cyrchwyd 14 June 2021.
- ↑ McLynn 1998
- ↑ Gueniffey, Patrice (13 April 2015). Bonaparte. Harvard University Press. tt. 21–22. ISBN 978-0-674-42601-6.
- ↑ 6.0 6.1 Dwyer 2008a
- ↑ Dwyer 2008a
- ↑ McLynn 1998, t. 6
- ↑ 9.0 9.1 Cronin 1994, pp. 20–21
- ↑ Chamberlain, Alexander (1896). The Child and Childhood in Folk Thought: (The Child in Primitive Culture), p. 385 (yn Saesneg). MacMillan.
- ↑ Cronin 1994, p. 27
- ↑ 12.0 12.1 12.2 International School History (8 February 2012), Napoleon's Rise to Power, https://www.youtube.com/watch?v=LquhSEdVfK8, adalwyd 29 January 2018
- ↑ Johnson, Paul (2006). Napoleon: A Life (yn Saesneg). Penguin. ISBN 978-0-14-303745-3.
- ↑ 14.0 14.1 14.2 Roberts 2001, p. xvi
- ↑ 15.0 15.1 15.2 Murari·Culture·, Edoardo (20 August 2019). "Italians Of The Past: Napoleon Bonaparte". Italics Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 October 2021.
- ↑ 16.0 16.1 Roberts 2014.
- ↑ 17.0 17.1 Parker, Harold T. (1971). "The Formation of Napoleon's Personality: An Exploratory Essay". French Historical Studies 7 (1): 6–26. doi:10.2307/286104. JSTOR 286104.
- ↑ Adams, Michael (2014). Napoleon and Russia (yn Saesneg). A&C Black. ISBN 978-0-8264-4212-3.
- ↑ McLynn 1998
- ↑ Grégoire, Henri (1790). "Report on the necessity and means to annihilate the patois and to universalise the use of the French language". Wikisource (yn Ffrangeg). Paris: French National Convention. Cyrchwyd 16 January 2020.
[...] the number of people who speak it purely does not exceed three million; and probably the number of those who write it correctly is even fewer.
- ↑ McLynn 1998
- ↑ Chandler 1973.
- ↑ 23.0 23.1 Dwyer 2008a, t. 42
- ↑ McLynn 1998, t. 26
- ↑ Roberts, Andrew.
- ↑ Roberts, Andrew.
- ↑ David Nicholls (1999). Napoleon: A Biographical Companion. ABC-CLIO. t. 131. ISBN 978-0-87436-957-1.
- ↑ McLynn 1998, t. 55
- ↑ McLynn 1998, t. 61
- ↑ 30.0 30.1 30.2 30.3 30.4 Roberts 2001, p. xviii
- ↑ Roberts, Andrew (2011). Napoleon: A Life (yn Saesneg). Penguin. ISBN 978-0-698-17628-7.
- ↑ Dwyer 2008a, t. 132
- ↑ Dwyer, p. 136.
- ↑ McLynn 1998, t. 76
- ↑ Patrice Gueniffey, Bonaparte: 1769–1802 (Harvard UP, 2015), pp. 137–59.
- ↑ Dwyer 2008a, t. 157
- ↑ McLynn 1998, tt. 76, 84
- ↑ McLynn 1998
- ↑ Dwyer 2008a
- ↑ Dwyer 2008a
- ↑ McLynn 1998
- ↑ 42.0 42.1 McLynn 1998, t. 96
- ↑ Johnson 2002, p. 27
- ↑ Carlyle, Thomas (1896). "The works of Thomas Carlyle – The French Revolution, vol. III, book 3.VII". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 March 2015.
- ↑ Englund (2010) pp. 92–94
- ↑ Bell 2015, t. 29.
- ↑ Dwyer 2008a, tt. 284–85
- ↑ McLynn 1998
- ↑ Memoirs of Napoleon Bonaparte, Louis Antoine Fauvelet de Bourrienne, pp 158.
- ↑ McLynn 1998, t. 145
- ↑ McLynn 1998, t. 142
- ↑ Harvey 2006, p. 179
- ↑ McLynn 1998, t. 135
- ↑ Dwyer 2008a, t. 306
- ↑ Dwyer 2008a, t. 305
- ↑ Bell 2015, t. 30.
- ↑ Dwyer 2008a, t. 322
- ↑ Watson 2003, pp. 13–14
- ↑ Amini 2000, p. 12
- ↑ Dwyer 2008a
- ↑ Englund (2010) pp. 127–28
- ↑ McLynn 1998, t. 175
- ↑ McLynn 1998
- ↑ Dwyer 2008a
- ↑ 65.0 65.1 65.2 Roberts 2001, p. xx
- ↑ Dwyer 2008a
- ↑ Dwyer 2008a
- ↑ McLynn 1998
- ↑ Gueniffey, Bonaparte: 1769–1802 pp. 500–02.
- ↑ Dwyer 2008a, t. 442
- ↑ 71.0 71.1 71.2 Connelly 2006, p. 57
- ↑ Dwyer 2008a, t. 444
- ↑ Dwyer 2008a, t. 455
- ↑ François Furet, The French Revolution, 1770–1814 (1996), p. 212
- ↑ Georges Lefebvre, Napoleon from 18 Brumaire to Tilsit 1799–1807 (1969), pp. 60–68
- ↑ 76.0 76.1 Lyons 1994, t. 111
- ↑ Lefebvre, Napoleon from 18 Brumaire to Tilsit 1799–1807 (1969), pp. 71–92
Rhagflaenydd: Louis XVI |
Ymerawdwr Ffrainc 18 Mai 1804 – 6 Ebrill 1814 |
Olynydd: Louis XVIII fel Brenin Ffrainc a Navarre |
Rhagflaenydd: Ffransis II |
Brenin yr Eidal 26 Mai 1804 – 1814 |
Olynydd: Dim (o 1861 Vittorio Emanuele II) |
Rhagflaenydd: Louis XVIII fel Brenin Ffrainc a Navarre |
Ymerawdwr Ffrainc 23 Mawrth 1815 – 22 Mehefin 1815 |
Olynydd: Napoleon II |