Mark! Lopez

ymgyrchydd dros yr amgylchedd

Ymgyrchydd amgylcheddol Americanaidd yw marc! Lopez a gaiff ei sgwennu gydag 'm' fach ac ebychnod. Roedd yn gyfarwyddwr gweithredol East Yard Communities for Environmental Justice. Bu’n lobïo am lanhau halogiad batri-plwm Exide yn Vernon, California a threfnodd brotest yn y Ganolfan Ddinesig, Los Angeles.[1][2][3][4] He won a 2017 Goldman Environmental Prize.[5]

Mark! Lopez
mark! Lopez yn ei swyddfa; 2016
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethamgylcheddwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Amgylchedd Goldman Edit this on Wikidata

Addysg golygu

Graddiodd o Brifysgol California, Santa Cruz, a Phrifysgol Talaith California, Northridge.[6]

Ymgyrchu yn erbyn y ffatri asid-plwm golygu

Mae glanhau'r gwaith plwm enfawr bellach ar y gweill; dyma'r ymdrech fwyaf o’i fath yn hanes California. Mae gwaith y grwp East Yard a grwpiau cymunedol eraill tebyg iddo - hefyd wedi helpu i orfodi sgyrsiau yn Sacramento am lygredd aer, gan arwain at reoliadau ansawdd aer newydd.[7][8][9]

Agorodd y ffatri ailgylchu batri asid plwm yn Vernon, Califfornia, ym 1922. Erbyn y 1990au, roedd y ffatri wedi'i enwi sawl gwaith am fod yn euog o droseddau amgylcheddol. Gwerthwyd y ffatri yn 2000 i gwmni o Georgia o'r enw Exide Technologies.

Cyhoeddodd y Los Angeles Times wybodaeth a gafodd trwy gais cofnodion cyhoeddus, a oedd yn disgrifio "pwll o slwtsh gwenwynig, llwch plwm a oedd yn bwrw glaw i lawr mewn ardaloedd cyfagos, a gwastraff batri asid plwm yn cael ei storio mewn trelars sy'n gollwng". Dywedir bod profion pridd o amgylch ffatri Exide wedi dangos lefelau plwm fwy na 50 gwaith y lefel sy'n ofynnol i gael ei hystyried yn wastraff peryglus. Ni wnaeth y dalaith bron ddim. Roedd wedi caniatáu i'r ffatri weithredu gyda thrwydded anghyflawn am dros 30 mlynedd.[10]

Caewyd y ffatri yn 2015 a bu'n rhaid i'r dalaith dalu $176 mi,liwn i glirio'r gwenwyn, a oedd wedi effeithio dros 10,000 o deuluoedd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Lopez, mark! (2020-08-28). "East Yard Leadership in Transition". East Yard Communities for Environmental Justice (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-30. Cyrchwyd 2021-04-24.
  2. "The Fight for Environmental Justice and the Rise of Citizen Activism". Governing (yn Saesneg). 2018-01-22. Cyrchwyd 2021-04-24.
  3. Ehrenreich, Ben (2019-03-26). "The Road to Climate Catastrophe Runs Through a City Called Commerce". The Nation (yn Saesneg). ISSN 0027-8378. Cyrchwyd 2021-04-24.
  4. "Environmental justice starts with "everyday folks who feel like enough is enough"". Grist (yn Saesneg). 2017-04-24. Cyrchwyd 2021-04-24.
  5. "mark! Lopez". Goldman Environmental Foundation (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-24.
  6. "CSUN Alumnus mark! Lopez Wins One of the World's Top Environmental Activism Prizes". csunshinetoday.csun.edu.
  7. "The Fight for Environmental Justice and the Rise of Citizen Activism". Governing (yn Saesneg). 2018-01-22. Cyrchwyd 2021-04-24.
  8. "L.A. protesters dump bags of dirt at federal courthouse to oppose Exide plant abandonment". Los Angeles Times (yn Saesneg). 2020-10-20. Cyrchwyd 2021-04-24.
  9. November 3; Aguirre, 2020 Fran (2020-10-20). "Residents Throw Bags of Soil at DOJ After Battery Plant in Southeast L.A. Is Allowed To Walk Away Without Cleaning up Its Lead Pollution". L.A. TACO (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-24.
  10. "The Fight for Environmental Justice and the Rise of Citizen Activism". Governing (yn Saesneg). 2018-01-22. Cyrchwyd 2021-04-24.