Mark Fisher
Awdur, athronydd, beirniad a sylwebydd diwylliannol o Loegr oedd Mark Fisher (11 Gorffennaf 1968 – 13 Ionawr 2017).
Mark Fisher | |
---|---|
Ganwyd | 11 Gorffennaf 1968 Caerlŷr |
Bu farw | 13 Ionawr 2017 Felixstowe |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, damcaniaethwr, blogiwr, athronydd, beirniad cerdd, academydd, cultural studies scholar |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Capitalist Realism: Is There No Alternative?, Exiting the Vampire Castle |
Prif ddylanwad | Franz Kafka, Jacques Lacan, Gilles Deleuze, David Harvey, Fredric Jameson, Slavoj Žižek |
Ysgrifennodd y blog llwyddiannus k-punk yn yr 2000 cynnar a daeth yn enwog am ei erthyglau ar wleidyddiaeth radicalaidd a diwylliant poblogaidd. Ysgrifennodd hefyd am sut brwydrodd gyda’r salwch iselder.[1]
Mae Fisher yn cael ei gofio’n bennaf am ei lyfr Capitalist Realism: Is There No Alternative? (2009) a gyhoeddwyd gan Zero Books. Roedd Fisher hefyd yn un o sylfaenwyr Zero Books ac wedyn Repeater Books.[2]
Bu farw yn Ionawr 2017 gan gyflawni hunanladdiad.
'Realaeth gyfalafol' a 'Hiraeth am y dyfodol'
golyguDefnyddiodd Fisher y term Capitalist Realism i ddisgrifio sut mae’r farchnad rydd gystadleuol yn cael ei hystyried fel yr unig system economaidd posib a bod hi bellach yn amhosib meddwl am alternatif. Dadleuodd Fisher fod yr ideoleg Neo-ryddfrydol (Neoliberalism ) yn treiddio, dylanwadu a rheoli pob agwedd o ddiwylliant, gwaith ac addysg ac yn llesteirio meddyliau a gweithredoedd.[3]
Bu Fisher yn gyfrifol am boblogeiddio’r term Hauntology (cysyniad gwreiddiol yr athronydd Jacques Derrida) i gyfleu hiraethu am ddyfodol neu fyd gwell a gobeithiwyd amdano ond sydd heb ddod i fodolaeth. Credodd Fisher fod diwylliant presennol wedi rhoi’r gorau i geisio dyfeisio dyfodol ac yn bodloni ar hiraethu ac ail-wampio.[4]
Llyfryddiaeth
golygu- The Resistible Demise of Michael Jackson (golygydd) Zero Books, 2009. ISBN 978-1846943485
- Capitalist Realism: Is There No Alternative?. Zero Books, 2009. ISBN 978-1846943171
- Ghosts of My Life: Writings on Depression, Hauntology and Lost Futures. Zero Books, 2014. ISBN 978-1780992266
- Post-Punk Then and Now (gyd-olygydd), Repeater Books, 2016. ISBN 978-1910924266
- The Weird and the Eerie. Repeater Books, 2017. ISBN 978-1910924389
- k-punk: The Collected and Unpublished Writings of Mark Fisher (2004–2016) Repeater Books, 2018. ISBN 978-1910924389