Chwaraewr snwcer o Gwm, Blaenau Gwent yw Mark James Williams (ganwyd 21 Mawrth 1975).

Mark J. Williams
Ganwyd21 Mawrth 1975 Edit this on Wikidata
Cwm Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr snwcer Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, Snooker Hall of Fame Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Mae wedi ennill 22 twrnamaint graddedig, gan gynnwys tri Pencampwriaeth Byd, a'r chwaraewr llaw chwith cyntaf i ennill Pencampwriaeth Byd.

Yn 1996 enillodd Pencampwriaeth Agored Cymru a'r Grand Prix, ac yna yn 1998 enillodd y Masters. Roedd tymor 1999/2000 yn bwysig yn ei yrfa pan enillodd Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig a Phencampwriaeth y Byd ynghyd â nifer o enillion eraill i gyrraedd y reng gyntaf Yn 2002/2003 enillodd y Deyrnas Unedig, y Masters a Phencampwriaeth y Byd. Gwnaeth hyn ef y pedwerydd chwaraewr i ddal y tri teitl ar yr un pryd, gan ddilyn Stephen Hendry, Steve Davis a John Higgins

Ar yr 20 Ebrill 2005 daeth y Cymro cyntaf, a'r pumed yn hanes Pencampwriaeth y Byd i wneud 147.

Ei hyfforddwr oedd Terry Griffiths ond yn Ebrill 2006 daeth hynny i ben er iddynt barhau yn ffrindiau.

Cyfeirir ato yn aml fel Mark J. Williams i'w wahaniaethu â Mark James arall o Loegr a oedd yn chwarae snwcer yn y 90au

Yn 2018, daeth yn Bencampwr y Byd am y trydydd tro, 15 mlynedd ar ôl ennill ddiwethaf. Curodd yr Albanwr John Higgins o 18-16 ffrâm.[1]

Cyfeiriadau

golygu