Marlene Streeruwitz
Awdures o Awstria yw Marlene Streeruwitz (ganwyd 28 Mehefin 1950) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur, actor, cyfarwyddwr theatr ac awdur.
Marlene Streeruwitz | |
---|---|
Ffugenw | Nelia Fehn |
Ganwyd | 28 Mehefin 1950 Baden bei Wien |
Dinasyddiaeth | Awstria |
Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr theatr, llenor, awdur ffuglen wyddonol, nofelydd |
Arddull | drama, utopian and dystopian fiction |
Tad | Viktor Wallner |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Hasenclever Walter, Gwobr Hermann-Hesse, Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen, Gwobr Franz-Nabl, Gwobr Droste, Gwobr Celf Awstria ar gyfer Llenyddiaeth, Gwobr Lenyddiaeth Dinas Vienna, Peter Rosegger award, Brüder-Grimm-Poetikprofessur |
Ganwyd Marlene Streeruwitz i deulu cefnog yn Awstria, yn Baden bei Wien. Roedd ei thad yn wleidydd ac yn ddiweddarach daeth yn faer y dref. Dechreuodd ei diddordeb mewn llenydda yn dilyn ei hysgariad, er na chyhoeddodd unrhywbeth am rhyw 14 mlynedd arall. Gwnaeth enw iddi ei hun fel awdur y ddrama radio Kaiserklamm. Und. Kirchenwirt (1989) ac yn arbennig felly yn dilyn llwyddiant y dramâu Waikiki-Beach a Sloane Square gafodd eu llwyfannu yn Cologne. Derbyniodd sawl gwobr am ei gwaith, yn cynnwys yr Hermann-Hesse-Preis (2001), Literaturpreis der Stadt Wien (Gwobr Llên gan Ddinas Fiena, 2001) a'r Droste-Preis (2009).[1][2]
Astudiodd y Gyfraith a Ieithoedd Slafaig ym Mhrifysgol Fienna, ond rhoddodd y gorau i'w hastudiaethau er mwyn priodi a magu teulu. Yn ogystal â bod yn ddramodydd llwyddiannus, y mae hi hefyd yn adnabyddus fel bardd, ac am ddarllen ei gweithiau ei hun megis Sein. Und Schein. Und Erscheinen (1997) a Können. Mögen. Dürfen. Sollen. Wollen. Müssen. Lassen (1998) yn Tübingen a Frankfurt. Cyhoeddodd hefyd nofelau a straeon byrion.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Marlene Streeruwitz" (yn Almaeneg). Niederösterreich. Cyrchwyd 9 Mawrth 2015.
- ↑ "Marlene Streeruwitz" (yn Almaeneg). Belletristik-Couch.de. Cyrchwyd 10 Mawrth 2015.