Marsipán
Melysfwyd a wneir o almonau mân neu bast almon, siwgwr, a gwynwy yw marsipán. Defnyddir marsipán meddal i lenwi crystiau a melysion. Caiff marsipán caled ei siapio a'i liwio i wneud ffrwythau, llysiau, a chreaduriaid bychain.[1]
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e4/Marzipan_candy_in_a_store_window_in_Florence.jpg/220px-Marzipan_candy_in_a_store_window_in_Florence.jpg)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) marzipan (confection). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Tachwedd 2013.