Bwyd â chynnwys uchel o siwgr sy'n rhoi iddo flas melys yw melysfwyd.[1] Mae siocled, melysion neu losin, a chrystiau i gyd yn felysfwydydd. Bwyteir yn aml am bwdin neu fel bwyd cyfleus neu fyrbryd.

Berwi siwgr golygu

Defnyddir y broses ferwi siwgr i wneud nifer o felysfwydydd. Pan ymdoddir swcros mewn dŵr, cynhyrchir surop. Wrth wresogi'r toddiant anweddir rhywfaint o'r dŵr gan grynhoi'r siwgr berwi. Trwy atal y broses ar wahanol dymereddau ac oeri'r toddiant, ceir amryw o ansoddau. Gellir newid yr ansawdd a'r golwg ymhellach drwy ychwanegu cynhwysion a thrin y cymysgedd wrth iddo oeri.[2]

Tymheredd Enw Melysfwydydd
106–113 °C (223–236 °F) edau
112–116 °C (234–240 °F) pêl feddal ffondant, cyffug
118–121 °C (244–250 °F) pêl led-galed caramelau meddal, cyflaith
121–130 °C (250–266 °F) pêl galed caramelau caled, cyflaith,
malws melys, roc Caeredin
132–143 °C (270–290 °F) hollt feddal menyn caramel, nyget,
hymbyg, losin llygad tarw,
roc glan môr
149–154 °C (300–310 °F) hollt galed siwgr barlys, losin sur
160–177 °C (320–350 °F) caramel taffi cnau, pralin

Ers diwedd y 19g defnyddir thermomedrau arbennig i fesur tymheredd toddiannau siwgr berwi. Erbyn heddiw mae gan wneuthurwyr melysfwydydd gynhwysion sy'n bur gemegol, ond yn y cartref gellir defnyddio hen system i bennu gwahanol grynodiadau siwgr berwi. Am bob cam ceir dull i bennu cyflwr y toddiant. Cyn profi, tynnir y badell sy'n cynnwys y toddiant siwgr poeth o'r gwres a'i oeri drwy roi'r gwaelod mewn dŵr oer. Mae hyn yn atal y toddiant rhag berwi i gam uwch. Dyma'r dulliau i brofi camau berwi siwgr:

  1. Cam edau: caiff ychydig o surop ei ddiferu o lwy, neu ei ymestyn rhwng bys a bawd, gan ffurfio edau fer, main.
  2. Cam pêl feddal: bydd y surop yn ffurfio pêl mewn dŵr, ond yn colli ei siâp yn syth pan yn yr aer.
  3. Cam pêl led-galed: mae'r surop yn wydn ond yn ystwyth mewn dŵr. Bydd yn colli ei siâp yn gyflym mewn tymheredd ystafell.
  4. Cam pêl galed: gellir siapio'r surop yn bêl yn hawdd. Pan tynnir o'r dŵr mae'n cadw ei siâp ac yn teimlo'n wydn iawn. Yn y tri cham "pêl", mae'r surop yn teimlo'n eithaf gludiog.
  5. Cam hollt feddal: difera surop i ddŵr rhew, a gellir ei ymestyn rhwng y dwylo. Bydd yn gwahanu'n edafedd caled ond ystwyth, ac yn teimlo ychydig yn ludiog.
  6. Cam hollt galed: tynnir surop o'r dŵr ac fe'i blygir. Mae'n torri'n hawdd ac mae ganddo liw melyn ac nid yw'n ludiog.
  7. Cam caramel: pennir y cam hwn drwy ddiferu ychydig o surop ar blât gwyn ac arsylwi ei liw. Os yw'n lliw mêl euraidd, caramel golau yw hi, ac mae caramel tywyll yn felyngoch. Os yw'r toddiant yn coginio y tu hwnt i'r cam hwn, mae'n llosgi ac yn troi'n ddu ac yn dda i ddim.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  melysfwyd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Awst 2014.
  2. 2.0 2.1 Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 768.