Pentref ac ardal faestrefol Rhydychen yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, yw Marston.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Old Marston, a chaiff y pentref alw'n Old Marston weithiau i'w wahanu oddi wrth New Marston, sydd wedi datblygu rhwngddo a chanol y ddinas 2 filltir i ffwrdd yn y 19g a'r 20g. Cafodd y pentref dderbyn o fewn ffiniau'r ddinas yn 1991.

Marston
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolOld Marston
Daearyddiaeth
SirSwydd Rydychen
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd2.92 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.777°N 1.236°W Edit this on Wikidata
Cod OSSP5208 Edit this on Wikidata
Cod postOX3 Edit this on Wikidata
Map

Mae'r A40, rhan o gylchffordd Rhydychen, yn pasio i'r gogledd o'r pentref. Mae llwybr beic yn cysylltu Marston gyda chanol y ddinas, ond mae ef weithiau dan ddŵr y llifogydd. Deillia enw'r dref o marsh a town sy'n awgrymu fod corsdir wedi bod yma ers canrifoedd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 19 Mai 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.