Awdur llyfrau ditectif o Unol Daleithiau America yw Martha Grimes (ganwyd 2 Mai 1931) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel academydd. Ei chymeriad mwyaf poblogaidd yw Richard Jury, arolygydd gyda Scotland Yard. Yn hytrach na disgrifio trais mae ei nofelau'n canolbwyntio ar gymeriadu.[1]

Martha Grimes
Ganwyd2 Mai 1931 Edit this on Wikidata
Pittsburgh Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Maryland, College Park
  • Prifysgol Iowa Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, nofelydd, academydd, bardd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullcozy mystery Edit this on Wikidata
Gwobr/auThe Grand Master, Gwobr Nero Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.marthagrimes.com/hp/ Edit this on Wikidata

Yn 1983, derbyniodd Grimes Wobr Nero Wolfe am ddirgelwch y flwyddyn The Anodyne Necklace ac yn 2012, fe'i henwyd yn "Grand Master" gan Wobrau Edgar yn y dosbarth Mystery Writers of America.[2]

Erbyn 2019 trigai yn Bethesda, Maryland.

Magwraeth a choleg

golygu

Fe'i ganed yn Pittsburgh, Pennsylvania; ei thad oedd William Dermit Grimes, cyfreithiwr llwyddiannus a'i mam oedd Mehefin Dunnington, perchennog gwesty Mountain Lake yn Western Maryland, lle treuliodd Martha a'i brawd llawer o'u plentyndod.[3][4][5][6]

Wedi gadael yr ysgol enillodd ei B.A. a'i M.A. ym Mhrifysgol Maryland. Mae hi wedi dysgu ym Mhrifysgol Iowa, Prifysgol Taleithiol Frostburg, a Choleg Montgomery. [7][8][9][10][11]

Yr awdur

golygu

I ddechrau, daeth Grimes yn adnabyddus am ei chyfres o nofelau yn cynnwys Richard Jury, arolygydd yn Scotland Yard, a'i gyfaill Melrose Plant, aristocrat Seisnig sydd wedi rhoi'r gorau i'w deitlau. Mae pob un o'r gyfres wedi'i enwi ar ôl tafarn. Y cyntaf yn y gyfres oedd The Man With a Load of Mischief (Boston: Little, Brown, 1981).

Ceir hefyd cyfres o bedair nofel am y cymeriad Emma Graham, gyda'r cyntaf, Hotel Paradise, wedi'i lleoli ar lan llyn wrth droed Mynydd Lake Park, Maryland. Seiliwyd y gwesty ar westy ei mam, Mountain Lake Park, Maryland a seiliwyd un o brif gymeriadau'r nofel, Mr Britten, ar reolwr go iawn gwesty ei mam, sef Britten Leo Martin, Sr. a redai siop pob-dim ei mam ger y gwesty. Dymchwelwyd gwesty ei mam yn 1967 gan iddo gael ei esgeuluso.


Gweithiau

golygu

Cyfres Richard Jury (gyda Melrose Plant)

  1. The Man With a Load of Mischief (Boston: Little, Brown, 1981)
  2. The Old Fox Deceiv'd (Boston: Little, Brown, 1982)
  3. The Anodyne Necklace (Boston: Little, Brown, 1983)
  4. The Dirty Duck (Boston: Little, Brown, 1984)
  5. Jerusalem Inn (Boston: Little, Brown, 1984)
  6. Help the Poor Struggler (Boston: Little, Brown, 1985)
  7. The Deer Leap (Boston: Little, Brown, 1985)
  8. I Am the Only Running Footman (Boston: Little, Brown, 1986)
  9. The Five Bells and Bladebone (Boston: Little, Brown, 1987)
  10. The Old Silent (Boston: Little, Brown, 1989)
  11. The Old Contemptibles (Boston: Little, Brown, 1991)
  12. The Horse You Came In On (Efrog Newydd: Alfred A. Knopf, 1993)
  13. Rainbow's End (Efrog Newydd: Alfred A. Knopf, 1995)
  14. The Case Has Altered (Efrog Newydd: Alfred A. Knopf, 1997)
  15. The Stargazey (Efrog Newydd: Holt, 1998)
  16. The Lamorna Wink (Efrog Newydd: Viking, 1999)
  17. The Blue Last (Efrog Newydd: Viking, 2001)
  18. The Grave Maurice (Efrog Newydd: Viking Penguin, 2002)
  19. The Winds of Change (Efrog Newydd: Viking Penguin, 2004)
  20. The Old Wine Shades (Efrog Newydd: Viking Penguin, 2006)
  21. Dust (Efrog Newydd: Viking Penguin, 2007)
  22. The Black Cat (Efrog Newydd: Viking Penguin, 2010)
  23. Vertigo 42 (Efrog Newydd: Scribner, 2014)
  24. The Knowledge (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2018)


Cyfres Andi Oliver

  1. Biting the Moon (Efrog Newydd: Holt, 1999)
  2. Dakota (Efrog Newydd: Viking Adult, 2008)


  1. The End of the Pier (Ballantine Books, 1993)

Cyfres Emma Graham

  1. Hotel Paradise (Knopf, 1996)
  2. Cold Flat Junction (2000)
  3. Belle Ruin (2005)
  4. Fadeaway Girl (2011)

Novelau, Straeon Byrion a Barddoniaeth

  1. Send Bygraves (Putnam, 1990)
  2. The Train Now Departing (Efrog Newydd: Viking, 2001)
  3. Foul Matter (Efrog Newydd: Viking Penguin, 2003)
  4. The Way of All Fish (Simon and Schuster, 2014)

Bywgraffiad

  1. Double Double: A Memoir of Alcoholism gyda Ken Grimes (Scribner, 2016)

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: The Grand Master (2012), Gwobr Nero (1983)[12][13] .


Cyfeiriadau

golygu
  1. https://www.goodreads.com/list/show/914.Best_Literary_Mysteries
  2. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-11-04. Cyrchwyd 2019-07-28.
  3. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 11 Gorffennaf 2024.
  5. Dyddiad geni: "Martha Grimes". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Martha Grimes". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/
  7. Alma mater: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/
  8. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/
  9. Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/131001. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 131001.
  10. Anrhydeddau: https://edgarawards.com/category-list-the-grand-master/. http://awards.omnimystery.com/mystery-awards-nero.html.
  11. Sarah D. Fogle, editor, Martha Grimes Walks Into a Pub: Essays on a Writer with a Load of Mischief (N.p.:McFarland, 16 Rhagfyr 2010).
  12. https://edgarawards.com/category-list-the-grand-master/.
  13. http://awards.omnimystery.com/mystery-awards-nero.html.