Martin Johnes
hanesydd Cymreig
Hanesydd o Gymro yw Martin Johnes sydd yn arbenigo mewn hanes chwaraeon ac hanes modern Cymru. Mae'n dal swydd Athro Hanes Modern ym Mhrifysgol Abertawe.
Martin Johnes | |
---|---|
Galwedigaeth | hanesydd, academydd ![]() |
Cyflogwr | |
Gwefan | https://martinjohnes.com/ ![]() |
Cafodd ei fagu yng ngogledd Sir Benfro. Derbyniodd ei radd baglor a'i ddoethuriaeth o Brifysgol Caerdydd.[1] Yn 1998–2000 gweithiodd yn swyddog ymchwil, dan gyfarwyddiaeth yr Athro Iain McLean, ar brosiect i ymchwilio i ymateb llywodraeth y Deyrnas Unedig i drychineb Aberfan.[2] Yn 2002 enillodd Wobr Lenyddol yr Arglwydd Aberdâr, o Gymdeithas Brydeinig Hanes Chwaraeon, am ei lyfr Soccer and Society. Gweithiodd yn ddarlithydd yng Ngholeg St Martin (bellach Prifysgol Cumbria) cyn iddo ymuno â chyfadran hanes Prifysgol Abertawe yn 2006.[1]
Llyfryddiaeth golygu
- Gydag Iain McLean, Aberfan: Government and Disasters (Caerdydd: Welsh Academic Press, 2000).
- Soccer and Society: South Wales, 1900–1939 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2002).
- Wales Since 1939 (Manceinion: Manchester University Press, 2004).
- A History of Sport in Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2005).
- "'Heads in the Sand': Football, Politics and Crowd Disasters in Twentieth-Century Britain" yn Soccer and Disaster: International Perspectives, golygwyd gan Paul Darby, Martin Johnes, a Gavin Mellor (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2005), tt. 10–27.
- Christmas and the British: A Modern History (Llundain: Bloomsbury Academic, 2016).
- "Anglo-Welsh football relations" yn Sport and English National Identity in a 'Disunited Kingdom', golygwyd gan Tom Gibbons a Dominic Malcolm (Llundain: Routledge, 2017), tt. 184–97.
- Wales: England's Colony? (Aberteifi: Parthian Books, 2019).
Cyfeiriadau golygu
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "Johnes, Martin" yn Contemporary Authors. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 4 Ebrill 2020.
- ↑ (Saesneg) Yr Athro Iain McLean a'r Dr Martin Johnes (2000). Corporatism and Regulatory Failure: Government Response to the Aberfan Disaster. Adalwyd ar 4 Ebrill 2020.
Dolenni allanol golygu
- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- Martin Johnes ar Twitter