Marwolaeth Peter Connelly

Bachgen 17 mis oed oedd Peter Connelly (a elwir hefyd yn "Babi P", "Plentyn A") (1 Mawrth 2006 - 3 Awst 2007) fu farw yn Llundain o ganlyniad i dros 50 o anafiadau dros gyfnod o wyth mis.

Cafwyd Tracey Connelly (mam Peter), ei chariad Steven Barker, a Jason Owen (brawd Barker) yn euog o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.[1]

Bu beirniadaeth lym o wasanaethau plant Haringey o ganlyniad i farwolaeth Peter Connelly a phryder dros ofal plant yn weddill y Deyrnas Unedig.[2][3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Cyhoeddi enwau’r fam a dau frawd yn achos Babi P. Golwg360 (11 Awst 2009). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2012.
  2.  Babi P: 'Argyfwng yng Nghymru'. BBC (4 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2012.
  3.  Babi P: Ymateb cyrff iechyd. BBC (20 Hydref 2009). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2012.