Mary Morgan

llofrudd o Gymro

Roedd Mary Morgan (178815 Ebrill 1805) yn forwyn ifanc yn Llanandras, Sir Faesyfed a chafodd ei chrogi wedi ei chael yn euog o ladd ei phlentyn newydd-anedig.

Mary Morgan
Ganwyd1788 Edit this on Wikidata
Y Clas-ar-Wy Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ebrill 1805 Edit this on Wikidata
Llanandras Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweithiwr domestig Edit this on Wikidata
Castell Maeslwch - geograph.org.uk - 36551

Cefndir golygu

Hogan o'r Clas-ar-wy oedd Morgan. Cafodd ei chyflogi fel cogyddes iau yng Nghastell Maesllwch, sedd Walter Wilkins, Aelod Seneddol Sir Faesyfed.

Y Llofruddiaeth golygu

Roedd Morgan yn gweithio yn y ceginau yn oriau mân ddydd Sul ym mis Medi 1804 pan aeth yn sâl. Yn ddiweddarach aeth i'w hystafell yn ardal gweision y castell. Yn gynnar y noson honno aeth y cogydd i'w hystafell gan gyhuddo Morgan o roi genedigaeth i faban. Gwadodd y cyhuddiad yn gryf ar y dechrau. Yn ddiweddarach, yn ôl y dystiolaeth a roddwyd gan y cogydd, bu Morgan gyfaddef iddi esgor ar blentyn. Canfyddid corff y plentyn o dan y gwely wedi ei orchuddio gan blu. Roedd pen y bychan wedi ei dorri o'i chorff a'r system berfeddol, a ddifrodwyd yn ddifrifol, wedi'i thynnu a'i osod o dan y plentyn.

Trengholiad ac achos llys golygu

Cynhaliwyd y cwest ar y babi yn y Clas-ar-wy ddeuddydd yn ddiweddarach, a chanfu Rheithgor y Crwner:

Daeth Mary Morgan, cynt o Blwyf y Clas-ar-wy, dynes sengl, ar y 23ain diwrnod o Fedi yn fawr gyda'i phlentyn, wedi hynny ar ei phen ei hun ac yn gyfrinachol daeth allan o'i chorff, plentyn benywaidd, a oedd, yn ôl deddfau ac arferion y Deyrnas hon, yn fastard. Fe wnaeth Mary Morgan, heb fod ag ofn Duw o flaen ei llygaid, ond wedi ei symud a'i hudo gan ysgogiad y diafol wedi hynny ar yr un diwrnod gyda grym a breichiau ar y plentyn a anwyd yn fyw, yn groes i gyfraith yn fwriadol ac o'r malais uchod, ymosodiad gyda chyllell boced benodol wedi'i wneud o haearn a dur o werth chwe cheiniog.Rhoddodd un clwyf marwol i'r plentyn o dair modfedd o hyd a dyfnder o un fodfedd. Bu farw'r plentyn ar unwaith ac felly mae fforman y Rheithgor ei hun a'i gymrodyr yn dweud bod y plentyn wedi dod i'w marwolaeth ac nid fel arall.[1]

Roedd Morgan yn rhy sâl i deithio i Lanandras, lle cynhaliwyd y Brawdlysoedd, tan 6 Hydref. Dechreuodd yr achos yn y pen draw ym mis Ebrill 1805 o flaen Mr Ustus Hardinge, gan ddod i ben ar 11 Ebrill, pan gafwyd y rheithgor hi yn euog o lofruddio ei phlentyn.[2]

Ar 13 Ebrill crogwyd Morgan, a chladdwyd hi yn yr hyn a oedd ar y pryd yn dir heb ei gysegru ger yr eglwys yn ddiweddarach yr un prynhawn. Denodd ei dienyddiad cyhoeddus dyrfaoedd mawr, i'w gwylio wrth iddi gael ei chludo mewn trol o'r carchar i'w dienyddio yn Gallows Lane. Hi oedd y ferch olaf i gael ei chrogi'n gyhoeddus yn Sir Faesyfed.

 
Y Barnwr Haerdinge

Dadleuon golygu

Am beth amser ar ôl y dienyddiad, honnwyd mai tad y plentyn a lofruddiwyd oedd Walter Wilkins yr Ieuengaf [3], mab yr Aelod Seneddol ac Uchel Siryf y sir a " sgweier ifanc" Castell Maesllwch. Roedd Wilkins yn aelod o'r rheithgor mawr a ganfu fod gan Morgan achos i'w ateb. Er bod y ddamcaniaeth hon yn cael ei difrïo'n bellach, mae wedi bod yn allweddol wrth gadarnhau'r myth poblogaidd bod Mary Morgan wedi dioddef dan law pendefig diegwyddor. Erbyn hyn cytunir yn gyffredinol bod y tad yn un o'i chyd weision yn y castell.

Ers ei dienyddiad, bu ymdrechion i adfer enw da Morgan. Daeth ei hachos yn causes célèbre i ffeministiaid sydd wedi cyflwyno ei hachos fel cam gyfiawnder gan awgrymu bod y Barnwr a'r rheithgor yn misogynistig.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cylchgronau Cymru'r Llyfrgell Genedlaethol Radnoshire Society Transactions Cyf 53, 1983 tud 59
  2. "ADDRESS of MrJUSTICE HARDINGE To MARY MORGAN - The Cambrian". T. Jenkins. 1805-04-27. Cyrchwyd 2019-08-17.
  3. "ALAS FOR MARY MORGAN - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1898-05-28. Cyrchwyd 2019-08-17.
  4. Naomi Clifford - Mary Morgan: “A Provincial Tragedy” (1805)