Y Clas-ar-Wy

pentref yng Nghymru

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Y Clas-ar-Wy[1] (Saesneg: Glasbury). Fe'i lleolir ar lan ogleddol Afon Gwy, gyferbyn ag Aberllynfi, ac i'r de-orllewin o'r Gelli Gandryll, ger priffordd yr A438. Saif ar groesfan bwysig ar Afon Gwy, ger y fan lle mae Afon Llynfi yn ymuno â hi, o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Y Clas-ar-Wy
Eglwys Sant Cynidr
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth994 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,888.6 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0453°N 3.2012°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000276 Edit this on Wikidata
Cod postHR3 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Mae'r bardd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) yn cyfeirio at yr enw "y Clas" yn ei gerddi.[2]

Ceir lawnt (neu grîn) wedi ei amgylchynu a thai yn y pentref, rhywbeth sy'n gyffredin ym mhentrefi Lloegr ond yn anarferol yng Nghymru. Dyddia'r Hen Ficerdy i tua 1400, sy'n ei wneud yn un o'r tai hynaf yng Nghymru sydd a phobl yn dal i fyw ynddo.

Pont y Clas ar Wy

Heblaw'r Clas-ar-Wy ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Bochrwyd, Cwm-bach, Llansteffan a Llowes. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 902.

Cynrychiolaeth etholaethol golygu

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. www.gutorglyn.net; Archifwyd 2021-07-23 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 22 Mawrth 2018 gyda chaniatad gan Ann Parry Owen (gweler Trydariad yma.
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU