Masabane Cecilia Rangwanasha
cantores opera o Dde Affrica
Cantores soprano o Dde Affrica yw Masabane Cecilia Rangwanasha (ganwyd c.1994).
Masabane Cecilia Rangwanasha | |
---|---|
Ganwyd | 1996 |
Dinasyddiaeth | De Affrica |
Galwedigaeth | canwr opera |
Math o lais | soprano |
Daeth hi o dalaith Limpopo a dechreuodd ganu yn yr ysgol a'r eglwys yn ifanc iawn.[1] Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Cape Town. Roedd hi'n "Artist Ifanc" gyda chwmni Opera Cape Town am ddwy flynedd, ac ymddangosodd hi i mewn Die Zauberflöte, Mandela Trilogy a Porgy and Bess. Enillodd wobr y gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Ganu Ryngwladol Hans Gabor Belvedere yn 2019.[2]
Enillodd hi'r Wobr Cân yng Nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd 2021.[3] Roedd hi'n cystadleuwr yn y rownd derfynol y Wobr Canwr y Byd hefyd.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Masabane Cecilia Rangwanasha". BBC. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Cecilia Rangwanasha & Patrick Milne". Carinthischer Sommer. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-09. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
- ↑ Freya Parr (18 Mehefin 2021). "Masabane Cecilia Rangwanasha wins Song Prize at BBC Cardiff Singer of the World 2021". Classical Music Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Baritôn o Weriniaeth Corea yn ennill gwobr Canwr y Byd y BBC". Golwg360. 19 Mehefin 2021. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2021.