Term Ffrangeg yw matériel ("offer" neu "galedwedd") sy'n cyfeirio at gyfarpar, adnoddau, a chyflenwadau milwrol. Targedir matériel yn ystod rhyfel, trwy ysbeilio storfeydd y gelyn, ymosod ar eu cymdeithiau adnoddau, torri eu llinellau cyflenwi, a bomio'u hadnoddau ar faes y frwydr.

Cerbyd tancer yn cael ei symud yn ystod Cobra Gold 98, ymarfer milwrol gan yr Unol Daleithiau a Gwlad Tai
Eginyn erthygl sydd uchod am luoedd milwrol neu wyddor filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.