Matthew Rees
Chwaraewr rygbi'r undeb dros dîm rhanbarthol Scarlets Llanelli a Chymru yw Matthew Rees (ganed 9 Rhagfyr 1980). Mae'n chwarae fel bachwr.
Matthew Rees | |
---|---|
Ganwyd | 9 Rhagfyr 1980 Tonyrefail |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 188 centimetr |
Pwysau | 108 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Scarlets, Clwb Rygbi Pontypridd, Rhyfelwyr Celtaidd, Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | Bachwr (rygbi) |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed ef yng Nhonyrefail. Chwaraeodd dros Gwlb Rygbi Pontypridd a phan ddechreuodd rygbi rhanbarthol symudodd i'r Rhyfelwyr Celtaidd. Wedi i'r Rhyfelwyr gael eu dirwyn i ben, symudodd i'r Scarlets.
Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, roedd cystadleuaeth rhyngddo ef a Huw Bennett am safle'r bachwr. Dechreuodd Rees yn y gêm yn erbyn yr Eidal.