Maurice Griffith
Roedd Maurice Griffith (neu Griffin) (c. 1507 – 20 Tachwedd 1558) yn Gymro a benodwyd yn Esgob Rochester.
Maurice Griffith | |
---|---|
Ganwyd | 1507 Caernarfon |
Bu farw | 20 Tachwedd 1558 Southwark |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | Esgob Llanelwy, roman catholic bishop of Rochester (England) |
Mae'n debyg mai yn ardal Caernarfon, tua'r flwyddyn 1507, y ganwyd, gyda chysylltiad teuluol â stâd Coetmor, Tregarth. Bu'n fynach yn Blackfriars, Rhydychen cyn ei benodi ym 1535 i swydd Vicar-General yn Rochester. Wedi rhai penodiadau uwch yn esgobaeth Rochester a Llanelwy, tuag at ddiwedd ei yrfa, fe'i benodwyd yn Esgob Rochester.
Ynghyd â William Glyn, Esgob Bangor, chwaraeodd ran yn sefydlu Ysgol Friars, Bangor.
Bu farw ar 20 Tachwedd 1558.
Cyfeiriadau
golyguGareth Alban Davies (2007), 'Maurice Griffin (?-1558), Esgob Rochester' yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, cyfrol 68, 2007.