Mayonnaise
Saws oer sy'n tarddu o goginiaeth Ffrengig yw mayonnaise neu mayo. Gwneir drwy guro melynwy heb ei goginio, ac ychwanegu olew llysiau yn araf deg i greu emylsiwn. Fe'i flasir â sudd lemwn, mwstard, neu finegr.[1]
Oherwydd ei fod yn cynnwys canran uchel o fraster, mae bwyta gormod o mayonnaise yn ddrwg i'r iechyd a ceir ymdrechion i ddatblygu mayonnaise iachach.[2][1]
Defnyddir mayonnaise mewn sawl gwahanol ffordd a phryd gan gynnwys wrth baratoi coloslo sef salad bresych a weinir gyda chigach na bwydydd eraill.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) mayonnaise (sauce). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Tachwedd 2013.
- ↑ https://www.huffpost.com/entry/mayo-substitutes-mayonnaise_n_4847998