Meddiannaeth Ffrainc gan yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Yn dilyn cwymp Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd ardal ogleddol a gorllewinol Ffrainc ei feddiannu gan yr Almaen Natsïaidd o fis Mai 1940 hyd Ragfyr 1944. Cafodd y llywodraeth Almaenig yn y diriogaeth a feddiannwyd ei galw'n y Weinyddiaeth Filwrol yn Ffrainc (Almaeneg: Militärverwaltung in Frankreich), a elwir y rhanbarth yn y zone occupée. Bu rhanbarth bach a feddiannwyd gan yr Eidal yn y de ddwyrain, a rhanbarth na chafodd ei feddiannu, y zone libre, yn y de. Cafodd rhanbarthau Alsace a Lorraine eu hymgorffori'n rhan o'r Almaen. Gweinyddodd ôl-wladwriaeth Llywodraeth Vichy y tri rhanbarth hyn yn ôl termau'r cadoediad. Yn Nhachwedd 1942, meddiannodd lluoedd yr Axis y zone libre yn ogystal, a bu Ffrainc fetropolitanaidd dan feddiannaeth yr Axis nes glanio'r Cynghreiriaid ym 1944.
Enghraifft o'r canlynol | Llywodraeth Filwrol, cyfnod o hanes |
---|---|
Math | tiriogaeth dan feddiant |
Label brodorol | Militärverwaltung in Frankreich |
Dechreuwyd | 22 Mehefin 1940 |
Daeth i ben | Awst 1944, 4 Hydref 1943 |
Enw brodorol | Militärverwaltung in Frankreich |
Gwladwriaeth | yr Almaen Natsïaidd, Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ystod y feddiannaeth adeiladwyd gwersylloedd crynhoi yn Ffrainc a bu arwahanu yn erbyn Iddewon, er enghraifft bu raid iddynt wisgo seren felen. Cafodd niferoedd mawr o Iddewon Ffrengig eu danfon i wersylloedd difa'r Natsïaidd yng Ngwlad Pwyl. Bu nifer o Ffrancod yn cydweithio â'r Natsïaidd yn ystod y feddiannaeth, a nifer eraill yn eu gwrthwynebu trwy'r résistance. Mae etifeddiaeth yr agweddau hon o'r rhyfel yn bwnc dadleuol yn Ffrainc hyd heddiw.