Llywodraeth Vichy
Llywodraeth Vichy oedd llywodraeth y rhan ddeheuol o Ffrainc yn y cyfnod 1940-1944 yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn dilyn Brwydr Ffrainc. Galwai'r wladwriaeth ei hun yn État français ("Gwladwriaeth Ffrainc"), dan reolaeth y marsial Philippe Pétain, a defnyddiai ddinas Vichy yn Allier fel prifddinas. Yn ymarferol, roedd dan reolaeth yr Almaen Natsïaidd.
Enghraifft o'r canlynol | gwlad ar un adeg, regime, Gwladwriaeth byped, sefydliad |
---|---|
Daeth i ben | 29 Awst 1944 |
Label brodorol | État français |
Dechrau/Sefydlu | 10 Gorffennaf 1940, 1938 |
Lleoliad | Vichy |
Lleoliad yr archif | Archifdy Ffederal y Swistir |
Rhagflaenydd | y Drydedd Weriniaeth Ffrengig |
Olynydd | Provisional Government of the French Republic |
Enw brodorol | État français |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguRoedd Pétain wedi olynu Paul Reynaud fel arweinydd Ffrainc ar 16 Gorffennaf 1940. Ar 22 Mehefin, ildiodd byddinoedd Ffrainc i'r Almaen yn Compiègne. Dan y cytundeb, roedd yr Almaen i feddiannu gogledd a gorllewin Ffrainc, tra roedd y gweddill o Ffrainc a'i threfedigaethau i fod dan lywodraeth hanner-annibynnol. Cytunodd Pétain, oedd yn 84 oed, i weithredu fel pennaeth y wladwriaeth yma. Penododd Pierre Laval a François Darlan fel dirprwyon iddo.
Wedi i'r Cyngheiriad lanio yn y gogledd-orllewin yn 1944, symudodd yr Almaenwyr Lywodraeth Vichy i Belfort ac yn nes ymlaen i Sigmaringen yn yr Almaen. Wedi buddugoliaeth y Cyngheiriaid, dienyddiwyd nifer o aelodau o'r llywodraeth, yn eu plith Laval, am deyrnfradwriaeth, tra dedfrydwyd Pétain i garchar am oes.