Megalodon
Rhywogaeth ddiflanedig o forgi yw'r Megalodon (Carcharocles megalodon). Ystyr Megalodon yw "dant mawr", ac roedd yn byw 23 i 2.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ystod y Cyfnod Mïosen Cynnar a diwedd y Plïosen. Credid ar un adeg ei fod yn perthyn i deulu Lamnidae, gan olygu ei fod yn perthyn yn agos i'r morgi mawr gwyn (Carcharodon carcharias). Erbyn hyn y mae'r farn bron yn unfrydol ei fod yn perthyn i deulu diflanedig yr Otodontidae, a wahanodd oddi wrth linach y morgi mawr gwyn yn ystod y Cyfnod Cretasaidd Cynnar. Mae lleoliad ei genws yn dal i gael ei drafod, gyda gwahanol arbenigwyr yn ei osod naill ai gyda Carcharocles, Megaselachus, Otodus, neu Procarcharodon.
Mae gwyddonwyr yn awgrymu fod megalodon yn edrych fel fersiwn mwy corffol o'r morgi mawr gwyn, er y gallai fod wedi edrych yn debycach i'r heulforgi (Cetorhinus maximus) neu morgi rhesog y tywod (Carcharias taurus).
Uchafswm hyd y megalodon yn ôl amcangyfrifon heddiw yw tua 18 medr, gyda'r maint cyfartalog yn 10.5 medr. Er cymhariaeth, yr uchafswm ar gofnod ar gyfer y morgi mawr gwyn yn 6.1 metr (20 tr) a 12.65 medr ar gyfer y morgi morfilaidd.[1][2][3][4] Mae'n bosib bod gwahanol boblogaethau o'r megalodon yn amrywio yn eu maint ac ymddygiad o ganlyniad i ffactorau ecolegol.[5] Os oedd yn cyrraedd maint o dros 16 medr, byddai hynny'n ei wneud yn y pysgodyn mwyaf sydd wedi byw ar y ddaear hyd y gwyddom, yn fwy na'r pysgodyn Jurasig Leedsichthys.
Cafodd dant y Megalodon ei ddarganfod ar draeth Aberaeron gan fachgen 11 oed (Robert L Gapper) yn 1989 a gwnaed ffilm ohono gan y BBC a gedwir heddiw yn archifdy'r Llyfrgaell Genedlaethol. Mae'n bosibl i'r ffosil hwn o ddant fod wedi'i gario gan donnau'r môr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Great white sharks: 10 myths debunked". The Guardian. Cyrchwyd 3 June 2016.
- ↑ Carpenter, K. "Carcharodon carcharias". FishBase.org. Cyrchwyd 3 June 2016.
- ↑ Viegas, Jennifer. "Largest Great White Shark Don't Outweigh Whales, but They Hold Their Own". Discovery Channel. Cyrchwyd 19 January 2010.
- ↑ Wood, Gerald L. (1976). The Guinness Book of Animal Facts and Feats. Guinness Superlatives. tt. 139–141. ISBN 978-0-900424-60-1.
- ↑ Pimiento, C.; Balk, M. A. (2015). "Body-size trends of the extinct giant shark Carcharocles megalodon: a deep-time perspective on marine apex predators". Paleobiology 41 (3): 479–490. doi:10.1017/pab.2015.16. PMC 4541548. PMID 26321775. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4541548.