Offeryn bychan o garreg, callestr fel rheol, yw meicrolith (neu microlith: "carreg fechan"). Cysylltir meicrolithau â chyfnod Oes Ganol y Cerrig (y Mesolithig) yn Ewrop, tua 9000-4000 CC.

Meicrolith

Yn y cyfnod hwnnw oedd pobl yn dal i fyw mewn grwpiau bychain, yn hela anifeiliaid gwyllt a hel bwydydd y môr, cnau a llysiau er mwyn cynnal eu hunain. Nodweddir eu diwylliant gan yr arfer o wneud meicrolithiau, a fyddai fel rheol yn cael eu gosod mewn handlau pren neu asgwrn neu ym mhennau gwaywffyn.

Er eu bod yn offer bychain ymddangosiadol syml, roedd meicrolithiau yn gam pwysig ymlaen yn natblygiad technoleg. Roedd eu cynhyrchu yn gofyn am waith gofalus a llygad manwl ac maent yn wrthrychau syml ond cain sy'n dangos amgyffred o batrymau geometrig.

Roedd pobl yn dal i ddefnyddio meicrolithiau yng nghyfnod y Neolithig, yn arbennig yng ngogledd Ewrop, ond yn raddol cawsant eu disodli gan offer newydd mewn ymateb i newidiadau amgylcheddol a chymdeithasol.

Gweler hefyd

golygu