Oes Newydd y Cerrig

(Ailgyfeiriad o Neolithig)
Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Rhaghanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig Cynhanes
Mesolithig
P     Paleolithig Uchaf  
    Paleolithig Canol
    Paleolithig Isaf
  Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Oes Newydd y Cerrig neu'r cyfnod Neolithig yw'r olaf a diweddaraf o dri chyfnod Oes y Cerrig, cyfnod pan ddatblygwyd y dechnoleg o roi saip a ffurf ar gerrig fel arfau defnyddiol gan gychwyn oddeutu 10,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP) yn y Dwyrain Canol ac ychydig yn ddiweddarach yng ngweddill y byd [1] ac yn dod i ben rhwng 6,500 and 4,000 CP. Mae'n dilyn Oes Ganol y Cerrig a Hen Oes y Cerrig (neu Paleolithig) cyn hynny.

Penglogau yn Falköping, Västergötland, Sweden.

Dyma gychyn cyfnod yr Holosen (tua 12,000 blwyddyn yn ôl hyd at y presennol) a'r hyn sy'n pennu dyddiad ei ddechrau yw dyddiad y dechreuodd dyn ffermio yn yr ardal dan sylw; gall hyn wahaniaethu o un lle i'r llall. Daw'r cyfnod i ben pan fo dyn yn defnyddio offer metel, sef cychwyn yr Oes yr Efydd (neu mewn rhai eithriadau prin: Oes yr Haearn. Yn ystod y cyfnod hwn gwelir datblygiad mawr mewn tyfu cnydau ac yn y dulliau o ddofi anifeiliaid. Mae rhai archaeolegwyr. felly'n awyddus i newid yr enw o "Oes Newydd y Cerrig" ("Neolithig") i "Oes y Cymunedau".

Gweler hefyd

golygu
  1. Figure 3.3 o First Farmers: The Origins of Agricultural Societies gan Peter Bellwood, 2004