Meicrosgop electron

Math o ficrosgop sy'n defnyddio electronau (200-300 KeV) i ganfod a chreu delweddau yw'r Meicrosgop electron. Oherwydd tonfedd fer yr electronau hyn mae modd eu defnyddio i ddadansoddi gwrthrychau llai o lawer na thra'n defnyddio golau gweledol. Yn fras, mae modd chwyddo delwedd 10,000,000 x o'i gymharu â 2000x microsgop optegol confensiynol. Er enghraifft, o dan amgylchiadau priodol mae modd canfod atomau unigol (50 pm)[1].

Meicrosgop electron modern.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rolf Erni, Marta D. Rossell, Christian Kisielowski & Ulrich Dahmen Atomic-Resolution (2009); Imaging with a Sub-50-pm Electron Probe Phys. Rev. Lett. 102, 096101 (crynodeb am ddim [1])