Melyd

santes o Sir Ddinbych

Sant o Gymro oedd Melyd (bl. 6g efallai). Fe'i cysylltir â Sir Ddinbych yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Melyd
Eglwys Sant Melyd, Gallt Melyd.
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Man preswylSir Ddinbych Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl9 Mai Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Ychydig iawn a wyddys amdano. Yr unig le sy'n gysylltiedig â fo heddiw yw plwyf a phentref Gallt Melyd yn Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru. Mae eglwys y plwyf yn gysegredig iddo ac yn dyddio o'r Oesoedd Canol, ond cafodd ei hadnewyddu'n sylweddol yn y 19g.[1]

Ger y pentref ceir Ffynnon Felyd. Mae'r hynafiaethydd Edward Lhuyd yn ei nodi yn ei Parochiala.[2]

Cynhelid gwylmabsant Melyd ar 9 Mai.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 T.D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000). Tud. 401.
  2. Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954). Tud. 179.