Gallt Melyd
Pentref yng ngogledd Sir Ddinbych rhwng Prestatyn a Diserth yw Gallt Melyd( ynganiad ) (weithiau Allt Melyd; Saesneg: Meliden).
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.3167°N 3.4167°W ![]() |
Cod OS | SJ059807 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | James Davies (Ceidwadwyr) |
![]() | |
HanesGolygu
Tyst i bresenoldeb pobl yn yr ardal yn Oes yr Efydd neu ddiwedd Oes Newydd y Cerrig yw Crug Tŷ Draw, sy'n un o dros 400 o grugiau crwn yng Nghymru.
Tyfodd y pentref wrth i fwyngloddiau plwm a chwareli calchfaen yr ardal agor ar ddiwedd y 18g ac i mewn i'r ganrif olynnol. Enwir y pentref ar ôl Sant Melyd, ac mae'r eglwys yn gysegredig iddo.
Addysg a hamddenGolygu
Mae'r hen reilffordd rhwng Prestatyn a Diserth yn rhan o Llwybr y Gogledd (Prestatyn - Bangor) erbyn heddiw. Mae gan y pentref gwrs golff naw twll.
Ysgol Gynradd Sant Melyd yw'r ysgol leol.
Eglwys Sant MelydGolygu
Yng nghanol y pentref saif Eglwys Sant Melyd a chyfeirir at ei bodolaeth yn 1086 yn Llyfr Dydd y Farn - o bosib allan o bren. Mae'r adeilad presennol wedi'i chodi dros sawl canrif, gyda rhannau gorllewinol ohoni'n dyddio'n ôl i'r 1200au cynnar. Mae'r fynwent a'r lleoliad, fodd bynnag, yn llawer hŷn; gan ei bod yn gron, gwyddom ei bod yn fan addoli yng nghyfnod y Celtiaid.[1] Mae waliau'r rhan yma sy'n perthyn i'r Oesoedd Canol yn llawer mwy trwchus na'r gweddill, gan fod eu pwrpas yn amddiffynol-filwrol. Yn y wal hon ceir ffenest rosyn gyda darlun o Grist y Brenin ynddi. Arferai'r ffenest hon oleu'r galeri yng nghefn yr egwys, ond mae honno wedi'i thynu i lawr ers tro.
Ceir yma fedyddfaen sydd wedi'i dyddio'n ôl i 1175.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Nodiadau o daflen gan yr Eglwys yng Nghymru
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen ·
Dinbych ·
Llangollen ·
Prestatyn ·
Rhuddlan ·
Rhuthun ·
Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler ·
Betws Gwerful Goch ·
Bodelwyddan ·
Bodfari ·
Bontuchel ·
Bryneglwys ·
Bryn Saith Marchog ·
Carrog ·
Cefn Meiriadog ·
Clocaenog ·
Cwm ·
Cyffylliog ·
Cynwyd ·
Derwen ·
Diserth ·
Y Ddwyryd ·
Efenechtyd ·
Eryrys ·
Four Crosses ·
Gallt Melyd ·
Gellifor ·
Glyndyfrdwy ·
Graeanrhyd ·
Graigfechan ·
Gwyddelwern ·
Henllan ·
Loggerheads ·
Llanarmon-yn-Iâl ·
Llanbedr Dyffryn Clwyd ·
Llandegla ·
Llandrillo ·
Llandyrnog ·
Llandysilio-yn-Iâl ·
Llanelidan ·
Llanfair Dyffryn Clwyd ·
Llanferres ·
Llanfwrog ·
Llangwyfan ·
Llangynhafal ·
Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch ·
Llanynys ·
Maeshafn ·
Melin y Wig ·
Nantglyn ·
Pandy'r Capel ·
Pentrecelyn ·
Pentre Dŵr ·
Prion ·
Rhewl (1) ·
Rhewl (2) ·
Rhuallt ·
Saron ·
Sodom ·
Tafarn-y-Gelyn ·
Trefnant ·
Tremeirchion