Menter Dinefwr
Mae Menter Dinefwr yn un o 22 o Fentrau Iaith yng Nghymru ac yn un o dair Fenter Iaith yn Sir Gâr.
Cefndir
golyguSefydlwyd Menter Bro Dinefwr ar Hydref y 1af 1999 er mwyn ehangu’r defnydd o’r Gymraeg yn ardal Dyffryn Tywi, Dwyrain Sir Gaerfyrddin. Ar 1 Ebrill 2007, unodd Menter Bro Dinefwr â Menter Dyffryn Aman i greu Menter sy’n gweithio ar draws y ddwy ardal. Mae’n un o dair Menter iaith yn Sir Gaerfyrddin ac yn perthyn i bartneriaeth Mentrau Sir Gâr. Yn 2019 fe ail frandio'r Fenter ac mae yn nawr yn cael ei hadnabod fel Menter Dinefwr.
Nod
golyguNod Menter Dinefwr yw cefnogi datblygiad yr iaith Gymraeg a chyfrannu at adfywiad cymunedol ac economaidd i greu cymunedau cynaliadwy, naturiol ddwyieithog a llewyrchus.
Wrth i’r gwaith gynyddu a’r gwasanaethau ehangu, mae’r Fenter wedi sefydlu tri chwmni cysylltiol arall sef;
- Trywydd sy’n darparu gwasanaethau iaith broffesiynol, yn cynnwys cyfieithu a chynllunio iaith
- Cyfoes, sef siop a chanolbwynt Cymraeg yn Rhydaman
- Gofal Plant Cyf sy’n darparu gwasanaeth gofal plant dyddiol ac yn ystod gwyliau’r Haf