Mentrau Iaith Cymru
Mentrau Iaith Cymru yw'r corff cenedlaethol sy'n cydlynu a rheoleiddio gwaith oddeutu ugain gwahanol Menter Iaith sydd yng Nghymru. Yn 2017, roedd y corff yn derbyn grant blynyddol o £110,000 gan Lywodraeth Cymru.[1]
Lleolir swyddfeydd Mentrau Iaith Cymru yn Llanrwst, gan rannu swyddfeydd gyda Menter Iaith Conwy a Chaerfyrddin swyddfa Menter Iaith Gorllewin Sir Gaerfyrddin.
Mae MIC yn gweithredu fel pont rhwng Llywodraeth Cymru a'r mentrau iaith lleol.
Ymysg un o brif weithgareddau MIC yw trefnu a chyd-lynu Ras yr Iaith, ras hwyl dros yr iaith Gymraeg a gynhelir pob dwy flynedd. Mae'r Ras yn rhedeg drwy ganol trefi gan basio 'baton yr iaith' ar hyd y daith. Y mentrau iaith lleol, mewn cydweithrediad gyda MIC, sy'n trefnu nifer o'r gweithgareddau a llwybr y ras gydag aelodau o'r gymuned lleol.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwerth £4.2m o grantiau i sefydliadau Cymraeg. Golwg360 (22 Mawrth 2017). Adalwyd ar 6 Hydref 2018.