Ideoleg economaidd yw mercantiliaeth sydd yn ceisio cynyddu masnach er buddiannau'r wlad. Mae'n galw ar y llywodraeth i weithredu polisïau a rheoliadau er mantais yn nhermau'r cydbwysedd masnach, ar draul gwledydd eraill. Cefnogir y diwydiannau cynradd (amaeth a mwyngloddio) ac eilaidd (gweithgynhyrchu) i gynnal economi hunan-gynhaliol ac i greu gormodedd o nwyddau i'w hallforio. Ymdrechir i beidio â dibynnu ar fewnforion, oni bai am y pethau na ellir eu canfod neu eu cynhyrchu yn fewnwladol. Trwy hynny, y nod yw cynyddu cronfeydd ariannol y wlad a sicrhau arian cyfred cryf.

Bu mercantiliaeth ar ei hanterth yn Ewrop o'r 16g hyd y 18g, ac yn hanesyddol bu'n anelu at gynyddu'r cronfeydd aur ac arian yn y trysorlys.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.