Mercat Cross Aberdeen
Mae Mercat Cross Aberdeen yn strwythur ar safle'r farchnad yn Aberdeen, Yr Alban. Fe adeiladwyd gan John Montgomery ym 1686 gyda thywodfaen; costiodd £1,200. Mae’r adeilad yn chweonglog, gyda 12 medaliwn â delweddau o Iago I, II, III, IV a V, Mari, Iago VI, Siarl I a II, Iago VII, yr Arfau Brenhinol ac Arfau'r Dref. Mae Uncorn ar golofn uwchben y to, sydd yn gyffredin yn yr Alban.[1]
Math | croes marchnad |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberdeen |
Sir | Dinas Aberdeen |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 57.1483°N 2.0926°W |
Cod OS | NJ9449606380 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori A |
Manylion | |
Mae grisiau y tu fewn i'r adeilad yn arwain at y to, er mwyn gwneud datganiadau cyhoeddus. Datganiwyd James Francis Edward Stuart ("yr Hen Ymhonnwr") yn frenin yno ar 20 Medi 1715.[1]
Cyfeiriadau
golygu Eginyn erthygl sydd uchod am bensaernïaeth neu adeiladu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.