Eleanor Butler a Sarah Ponsonby

(Ailgyfeiriad o Merched Llangollen)

Dwy ferch oedd Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, a adnabyddir yn Saesneg fel The Ladies of Llangollen. Gwyddelod oeddent o ran tras ac maen nhw'n enwog oherwydd eu cyfeillgarwch rhamantus.

Merched Llangollen.

Eleanor Charlotte Butler (11 Mai 1739 – 2 Mehefin 1829): daeth Eleanor o deulu Castell Kilkenny ac roedd yn ferch academaidd iawn ar ôl cyfnod helaeth mewn lleiandy yn Ffrainc. Roedd ei mam yn awyddus iawn iddi hithau fynd yn lleian.

Roedd Sarah Ponsonby (1755 – 9 Rhagfyr 1832) yn dod o Woodstock (Iwerddon) ac roedd yn ail gyfnither i Frederick Ponsonby, 3ydd Iarll Bessborough.

Cyfarfu'r ddwy yn 1768 a deuthant yn ffrindiau mynwesol, gan gynllunio sut i ddianc o'u teuluoedd dros y blynyddoedd nesaf. Yn Ebrill 1778, rhedodd y ddwy i ffwrdd gan ddal cwch i Loegr ac yna i Langollen ble y bu iddyn nhw brynnu Plas Newydd ger Llangollen yn 1780.

Cyfeillion golygu

Dywedir fod yr ymwelwyr canlynol yn gryn ffrindiau gyda'r ddwy ferch ac wedi ymweld â'u cartref: Dug Wellington, Syr Walter Scott, a Wordsworth.[1]

Cyfeiriadau golygu


Oriel golygu