Newyddiadurwraig ddarlledu yw Mererid Wigley (ganwyd 11 Hydref 1976) sy'n fwyaf enwog am gyflwyno rhaglenni Ffeil, Ffermio a Bwletin Ffermio ar S4C.

Mererid Wigley
Ganwyd11 Hydref 1976 Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Magwyd Mererid ar fferm yn Nhalywern ger Machynlleth, sydd wedi bod yn nwylo'r teulu ers dechrau'r 17g, ac fe gafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Glantwymyn ac yna'n Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi.

Bu'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi a bu'n cystadlu'n Rali'r Sir, y Sioe Amaethyddol a'r Eisteddfod. Ymddiddorodd mewn ysgrifennu creadigol tra'n aelod o'r clwb, ac fe enillodd gadair Eisteddfod Sir y Ffermwyr Ifanc dair blynedd yn olynol, pan yn 17, 18 ac 19 oed.

Wedi gadael ysgol, aeth i astudio Llenyddiaeth Gymraeg a Llên y Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Tra yno, fe gafodd gyfle i weithio'n achlysurol i BBC Radio Cymru, ar y rhaglenni radio i bobl ifanc, Y Doctor Newyddion ac Y Profiad ac yna, yn cyflwyno'r bwletinau newyddion lleol o Aberystwyth.

Gadawodd Bangor wedi tair blynedd a symud i Gaerdydd lle bu'n gwneud cwrs ôl-radd mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu, ac wedi hynny, fe ymunodd ag Adran Newyddion y BBC.

Gyrfa golygu

Bu'n gweithio am gyfnod byr ar y rhaglen deledu Newyddion cyn ymuno â thîm Ffeil, y rhaglen newyddion i blant, lle treuliodd chwe blynedd yn gohebu a chyflwyno ac, wrth gwrs, yn cwrdd â channoedd o blant dros Gymru gyfan!

Gadawodd Mererid y BBC yn 2004 er mwyn ymuno â thîm cyflwyno Ffermio yn Ionawr 2005, gan ddod yn brif gyflwynydd ar Bwletin Ffermio, chwaer rhaglen y gyfres. Erbyn heddiw, mae'n cymryd seibiant o'r gwaith cyflwyno, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu'r gyfres Ffermio o wythnos i wythnos.

Bywyd personol golygu

Yn 2008, sefydlodd Mererid ei chwmni ei hun sy'n cynhyrchu dillad i fabanod, sef Silibili.

Mae'n byw yng Nghaerdydd.

Dolenni allanol golygu