Tref yn awdurdod unedol Fife, yr Alban, ydy Methil[1] (Gaeleg yr Alban: Meadhchill).[2] Saif ar yr arfordir yn edrych dros Foryd Forth, rhwng Buckhaven i'r gorllewin a Leven i'r dwyrain. Mae Afon Leven yn gwahanu Methil a Leven.

Methil
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,800 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLevenmouth Edit this on Wikidata
SirFife Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Uwch y môr14 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.1844°N 3.0223°W Edit this on Wikidata
Cod OSNT365995 Edit this on Wikidata
Cod postKY8 Edit this on Wikidata
Map

Roedd Methil gynt yn un o borthladdoedd pwysicaf y rhanbarth. Yn hanesyddol, codi glo oedd prif ddiwydiant yr ardal, a byddai rhan fwyaf o’r glo’n cael ei allforio drwy ddociau Methil. Rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd allforiwyd dros 3,000,000 o dunelli’r flwyddyn drwy'r dociau. Rhwng 1960 a 2011 safai Gorsaf Bŵer Methil, a oedd yn cael ei thanio gan slyri glo, wrth aber Afon Leven.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Methil boblogaeth o 11,010.[3]

Cân y Proclaimers golygu

Rhestrir Methil yng nghân deuawd gwerin/pop Albanaidd, The Proclaimers yn eu cân 'Letter from America'. Rhyddhawyd y gân yn 1987 ac mae'n trafod allfudo Albanwyr i edrych am waith. Mae pennill yn y gân sy'n adrodd enwau trefi sydd wedi dioddef o golli gwaith a di-boblogi: "Lochaber no more; Southerland no more; Lewis no more, Skye no more" - sef enwau ardaloedd a effeithiwyd gan Clirio'r Ucheldiroedd yn 19g ac yna cyferbynir hyn gyda'r ardaloedd diwydiant trwm o'r 20g a welwyd diboblogi: "Bathgate no more, Linwood no more; Methil no more; Irvine no more".[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 9 Ebrill 2022
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2021-12-02 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 9 Ebrill 2022
  3. City Population; adalwyd 9 Ebrill 2022
  4. "The Proclaimers - Letter From America". Dig! fideo swyddogol y gân ar Youtube. Cyrchwyd 27 Chwefror 2009.