Metro De Cymru
(Ailgyfeiriad o Metro De-Ddwyrain Cymru)
Syniad i integreiddio rheilffyrdd a bysiau yn Ne-Ddwyrain Cymru, o amgylch y canolbwynt Caerdydd Canolog, yw Metro De Cymru[1] neu Fetro De-Ddwyrain Cymru[2]. Y cam cyntaf oedd ei gymeradwyo ar gyfer datblygiad yn Hydref 2013.
Enghraifft o'r canlynol | rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Rhan o | Trafnidiaeth Cymru |
Gwladwriaeth | Cymru |
Rhanbarth | De Cymru |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae £62m wedi cael ei ddyrannu ar gyfer cyfnod un y cynllun er mwyn gwella cysylltiadau bysiau a thrênau, gan gynnwys gwelliannau i'r seilwaith rheilffyrdd, gwella gorsafoedd, cynlluniau parcio a theithio, coridorau bysiau a chynlluniau cerdded a beicio[3].