Trafnidiaeth Cymru
Corff trafnidiaeth i Gymru, Y Deyrnas Unedig
Cwmni nid-er-elw heb gyfalaf cyfrannau yw Trafnidiaeth Cymru (Saesneg: Transport for Wales) sy'n eiddo yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.
Sefydlwyd | 1 Ebrill 2016 |
---|---|
Math | Cwmni Preifat Cyfyngedig drwy warant |
Statws gyfreithiol | Is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru |
Pwrpas | Awdurdod trafnidiaeth |
Pencadlys | Canolfan QED, Prif Rhodfa, Stad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf CF37 5YR[1] |
Rhanbarth a wasanethir | Cymru a'r ffin rhwng Cymru a Lloegr |
Prif Weithredwr Gweithredol | James Price[2] |
Cadeirydd: Scott Waddington | |
Main organ | Masnachfraint Cymru a'r Gororau |
Mam-gwmni | Llywodraeth Cymru |
Gwefan | tfw.gov.wales/cy |
Fe'i sefydlwyd i ddarparu cymorth ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru o ran prosiectau trafnidiaeth yng Nghymru. Yn 2017, roedd yn bennaf gyfrifol am osod masnachfraint rheilffordd newydd Cymru a'r Gororau[3] o dan pwerau ddirprwyedig i lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.[4]
Defnyddir brand Trafnidiaeth Cymru yn lle brand y gweithredwr ar fasnachfraint rheilffordd Cymru a'r Gororau (yn hytrach na'r gweithredwr Keolis Amey) o fis Hydref 2018 ymlaen, yn ogystal ag ar wasanaethau bws.[5]
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Manylion Ty'r Cwmniau
- ↑ "About Team". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-27. Cyrchwyd 2018-10-04.
- ↑ "What we do | beta.gov.wales". beta.gov.wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-07. Cyrchwyd 2018-04-16.
- ↑ "Devolution settlement: Wales - GOV.UK". www.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-04-16.
- ↑ "TfW to replace operator's branding". Rail Magazine. Press Reader. 30 Awst 2017. Cyrchwyd 23 Ionawr 2018.