Mewnwr (rygbi)
(Ailgyfeiriad o Mewnwr)
Safleoedd Rygbi'r Undeb |
---|
Blaenwyr
Cefnwyr |
Safle chwarawer rygbi'r undeb yw mewnwr (rhif 9), dyma'r cyswllt holl bwysig rhwng y blaenwyr a'r cefnwyr, bob amser yng nghanol pethau. Mae'n aml o faintioli corfforol bach ond gyda chrap dda i sylwi beth sydd yn digwydd mewn gêm, yn medru ymateb i sefyllfa yn sydyn iawn, gyda sgiliau trafod ardderchog.
Ef yw'r cyntaf yn aml i amddiffyn drwy daclo a thu ôl pob sgrym i gael y bêl allan ac i gadw symudiad i fynd. Ef sydd yn rhoi'r bêl i mewn i'r sgrym ac yn ei chasglu hi wedyn
Er ei bod yn dechnegol anghyfreithlon mae'r mewnwr yn tynnu sylw'r dyfarnwr yn aml at gamweddau'r gwrthwynebwyr.